Gall grwpiau lleol elwa ar broject Traws(ffurfiannau) y Brifysgol
Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio rhyddhau grym creadigol ei myfyrwyr er budd elusennau a grwpiau datblygu cymunedol yn y rhanbarth.
Mewn project newydd a chyffrous, bydd myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn benodol myfyrwyr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, yn cael eu hannog i weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector ar brojectau creadigol, bywiog a heriol a fydd yn hyrwyddo materion penodol neu’n denu cynulleidfaoedd newydd i grwpiau cymunedol.
Y nod yw cyplysu myfyrwyr ag elusennau a sefydliadau sydd â neges arbennig i’w chyfleu. Bydd y myfyrwyr yn dod i adnabod y sefydliad a gweithio gydag ef i gytuno ar y cyfrwng mwyaf priodol ar gyfer eu neges – gallai hyn fod yn unrhyw beth o greu ffilmiau byr neu animeiddiadau ar gyfer y rhyngrwyd, i berfformiadau, sefydlu cyfryngau cymdeithasol newydd ar y we neu ymgyrchoedd hysbysebu mwy traddodiadol.
Bydd gweithio gyda myfyrwyr yn galluogi grwpiau cymunedol i harneisio brwdfrydedd a chreadigrwydd y bobl ifanc a hefyd sicrhau bod rhai o adnoddau’r Brifysgol ar gael at y dibenion hyn drwy eu defnydd gan y myfyrwyr.
“Mae gennym fyfyrwyr sydd â gwir awydd i chwarae rhan yn y gymuned y maent yn byw ynddi; mae hynny’n glir o nifer y myfyrwyr sydd eisoes yn cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli sy’n cael eu cynnal gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chyrff allanol. Rwy’n hynod falch fod y Brifysgol wedi dyfeisio ffordd arall eto i fyfyrwyr gyfrannu at gymunedau’r rhanbarth,” meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes.
Mae mudiadau ac elusennau yng ngogledd Cymru eisoes yn mynegi diddordeb ac yn ystyried sut y gallent elwa ar y fenter.
Dywedodd Steve Swindon, Cyfarwyddwr, Tape Community Music and Film Ltd, cwmni di-elw yng Ngogledd Cymru sy'n darparu projectau, hyfforddiant a chyflogaeth greadigol ddiogel a chynhwysol:
“Yn TAPE, rydym yn credu bod creadigrwydd wrth wraidd lles ar gyfer unigolion a chymunedau. Mae’r cyfle hwn yn gwbl gyson â’n ffordd gynhwysol ni o weithredu, ac rwy’n siŵr y bydd y math hwn o bartneriaeth o fudd mawr i bawb dan sylw.”
Wrth siarad am y project, dywedodd Urtha Felda, Swyddog Datblygu Ardal, MS Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth o MS. Mae 4,000 o bobl yn byw gydag MS yng Nghymru, a byddai cyfle i rannu’r pethau cadarnhaol a’r sialensiau a wynebwn yn eu bywydau yn fuddiol i lawer o bobl, yn cynnwys pobl a all fod newydd gael diagnosis ac ar fin dechrau ymaddasu i ddisgwyliadau bywyd gwahanol. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy am y project.”
Kate Taylor-Jones o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau sy’n arwain y fenter. Dywedodd: “Ein nod yw darparu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y gymuned leol a chymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau sydd ganddynt i godi ymwybyddiaeth a chreu newid cadarnhaol o ran pynciau y mae pobl yn teimlo’n gryf amdanynt.”
“Rydym yn awyddus i glywed gan elusennau, sefydliadau cymunedol, sefydliadau addysgol neu unrhyw un sy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â mater. Byddwn yn ceisio cyplysu’r grwpiau â myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yn y project.”
I gymryd rhan neu gael mwy o wybodaeth am y project, cysylltwch â Kate Taylor-Jones yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, Prifysgol Bangor, drwy e-bost at cos601@bangor.ac.uk, neu ffoniwch (01248) 388 560
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012