Gall tyfu tegeirianau Tsieineaidd ddiogelu rhywogaethau gwyllt
Mae holi pobl sydd eisiau prynu tegeirianau ynghylch beth sydd orau ganddynt wrth ddewis pa blanhigion i'w prynu wedi dangos bod llawer yn prynu tegeirianau gwyllt, sydd mewn perygl efallai, pryd y byddent yr un mor barod i brynu planhigion wedi'u tyfu'n fasnachol sy'n addas o ran lliw a phris.
Gan weithio mewn dau le gwahanol iawn yn Tsieina, sef Xishuangbanna, ardal wledig denau ei phoblogaeth yn ne-orllewin Tsieina, a Hong Kong, dinas fawr boblog iawn, darganfu ymchwilwyr nad dewisiadau defnyddwyr oedd yn arwain y galw am degeirianau gwyllt neu brin ym marchnadoedd blodau Tsiena.
Gellir defnyddio'r wybodaeth i lunio strategaethau i ddiogelu tegeirianau gwyllt yn ardal bioamrywiaeth Indo-Burma.
Fel yr eglurodd Dr Freya St John o Brifysgol Bangor: "Yn yr achos hwn fe wnaethom ddarganfod mai'r cyfan mae cwsmeriaid ei eisiau yw blodau lliwgar a rhad ac y byddent yr un mor barod i brynu planhigion wedi'u tyfu'n fasnachol. Mae planhigion gwyllt ar werth yn y marchnadoedd nid oherwydd mai dyna mae cwsmeriaid ei eisiau, ond oherwydd bod rhai masnachwyr yn gweld mai dyma'r ffordd hawsaf i ddarparu planhigion lliwgar a rhad i'r farchnad. Y ffordd orau efallai i ddiogelu tegeirianau gwyllt yw cryfhau gweithredu rheoliadau presennol i atal gwerthu'r planhigion hyn, ac ar y llaw arall gefnogi busnesau cyfreithlon sy'n gwerthu tegeirianau a dyfir yn fasnachol mewn ffordd gynaliadwy."
Meddai Dr Amy Hinsley, o Raglen Oxford Martin ar y Fasnach Bywyd Gwyllt Anghyfreithlon ym Mhrifysgol Rhydychen:
"Mae'r fasnach bywyd gwyllt yn un gymhleth ac nid yw'n endid neu farchnad unigol - mewn rhai achosion y galw gan ddefnyddwyr am nwyddau gwyllt o ffynonellau anghynaliadwy yw'r broblem, ond mewn achosion eraill y cyflenwad sy'n arwain y fasnach. Mae astudiaethau fel hon yn bwysig oherwydd heb wybod beth sy'n arwain marchnad anghyfreithlon nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod sut i roi sylw i'r broblem."
Meddai Dr Sophie Williams, a roddodd gychwyn ar yr ymchwil hon tra oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor: "Dwi'n wirioneddol falch bod y gwaith yma bellach wedi ei gyhoeddi ac fy mod yn dal i gyfrannu at wyddor cadwraeth."
Mae'r ymchwil: Using consumer preferences to characterise the trade of wild‐collected ornamental orchids in China, a oedd hefyd yn cynnwys Jiangyun Gao o Brifysgol Yunnan a Stephan W. Gale o Kadoorie Farm & Botanic Garden, Hong Kong i gael ei gyhoeddi yn Conservation Letters (https://doi.org/10.1111/conl.12569).
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2018