Gall yfed gormod o ddiodydd siwgraidd bylu’n gallu i flasu a’n mwynhad ohonynt
Os ydy'ch plant yn sychedig- yna anogwch nhw i yfed dŵr- dyna’r neges iechyd glir sy’n deillio o ymchwil diweddar ar ddewis blas ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r ymchwil newydd yn dangos am y tro cyntaf bod sensitifrwydd blas pobol ordrwm a gordew at ddiodydd meddal wedi pylu, ond eu bod yn eu hisymwybod yn ffafrio blas melys. Hefyd, mae tystiolaeth yn dangos hyd yn oed os nad ydych yn rhy drwm, bod yfed dwy ddiod siwgraidd y dydd am bedair wythnos yn ddigon i bylu’ch sensitifrwydd at flas melys a lleihau’ch pleser wrth ei flasu, ond ar yr un pryd i gynyddu’ch awydd amdani.
Tra bod hyn yn newyddion digalon i’r rhai ohonom efo dant melys, mae goblygiadau iechyd mwy difrifol i’r canlyniadau.
Wrth i fwyd a diodydd melys roi llai o foddhad, yna rydym yn dewis mwy ohonynt gan greu cylch dieflig o fwyta bwydydd melys a llawn calorïau.
Yr hyn sy’n peri pryder yng nghyswllt diodydd siwgraidd, yw nad yr esiamplau gwaethaf o ddiodydd pefriog llawn siwgr sy’n cael eu hastudio yma, ond yn hytrach y lefelau siwgr sydd mewn ‘sgwash’ neu sudd ffrwythau naturiol yn ogystal â diodydd pefriog - does dim ‘drwg a da’ yn y fan hyn, mae’n debyg bod yr holl ddiodydd melys yn orlawn o siwgr ac yn rhy felys.
“Mae goblygiadau difrifol i iechyd cyhoeddus. Mae’r ymchwil yma’n dangos cyn lleied o fwydydd melys sydd eu hangen i newid ein canfyddiad o flas a’n sensitifrwydd tuag ato,” esbonia Hans-Peter Kubis o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor.
Rydym yn rhuthro tuag at drychineb iechyd ar sawl lefel gyda nifer cynyddol o bobl sy’n rhy dew a’r nifer o achosion o glefyd siwgr math 2 ar gynnydd. O’n hymchwil ni, mae’n glir sut y mae’r cylch dieflig o orfwyta bwydydd a diodydd melys wedi’ i greu. Fel y mae boddhad blas yn lleihau, mae mwy o fwydydd melys yn cael eu bwyta, gan gyfrannu at y problemau hyn.”
“Mae siwgr ar gael cymaint yn rhwyddach heddiw nag ers talwm.”
Barn Kubis yw bod rhaid ymateb i’r broblem ar lefel genedlaethol.
“Fy ymateb i fyddai annog y llywodraeth i ystyried trethu deunydd bwyd sydd efo siwgr wedi’i ychwanegu ato- a neilltuo’r arian yna ar gyfer y gyllideb iechyd. Byddwn hefyd yn cwestiynu doethineb cynnwys diod ffrwythau yn y neges ‘5 y diwrnod’. Mae sudd ffrwythau’n cynnwys mwy o siwgr nag y mae pobl yn sylweddoli. Er enghraifft, pe baech chi’n tynnu’r blas miniog citrws oddi ar sudd oren, fyddech chi ddim yn hoffi ei yfed gan y byddai’n rhy felys- yn yr un modd fyddech chi ddim yn ystyried bwyta’r holl ffrwythau sydd yn creu un botel o sudd,” meddai.
Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ar y cyd efo Ysgol Meddygaeth Prifysgol Bryste.
Yn yr arbrawf, gofynnwyd i bobol denau a gordew nodi eu canfyddiad a’u mwynhad o flasau melys a hallt. Dangosodd yr arbrofion cyntaf bod pobol ordrwm a gordew yn cyfri’r un diodydd yn llai melys na’r bobl denau. Mewn arbrofion pellach ar gyfrifiadur dangoswyd bod ganddynt duedd i ffafrio blas melys yn fwy na’r bobol denau. Y canlyniad oedd bod y rhai gordrwm neu ordew a fu’n cymryd rhan yn llai sensitif tuag at flas melys ond yn fwy hoff o bethau melys.
“Mae ein hysfa isymwybodol yn chwarae rhan fawr yn ein dewis o fwydydd, a gan fod pobol ordew yn teimlo mwy o chwant bwyd, mae’r ysfa isymwybodol am fwydydd melys llawn calorïau yn cael mwy o effaith arnynt,” esbonia Hans-Peter Kubis.
I brofi ai gorfwyta bwydydd melys oedd yn gyfrifol am y canfyddiadau hyn ac i weld a oedd yn bosib ail-greu’r profiadau blas mewn pobol pwysau normal, defnyddiwyd pobol nad ydynt fel arfer yn yfed diodydd melys o gwbl. Yn yr ail arbrawf, roedd rhaid iddynt yfed dwy ddiod felys y diwrnod am bedair wythnos. Canfuwyd mewn cyn lleied â phedair wythnos ei fod yn bosib ail greu’r pylu yn synnwyr blas y diodydd melys a lleihau’r mwynhad wrth eu hyfed dro ar ôl tro.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2011