Galw ar fyfyrwyr i ddewis yn ddoeth y gaeaf hwn
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cael eu hannog i wneud 'Dewis Doeth' ar gyfer triniaeth iechyd y gaeaf hwn yn dilyn ymgyrch genedlaethol ar y campws.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor wedi dod ynghyd i lansio ymgyrch anferthol i gynghori myfyrwyr ar sut i gael gafael ar y gofal iechyd mwyaf addas ar gyfer salwch neu anaf tra byddant oddi cartref.
Dewis Doeth fydd y neges ar hyd a lled y campws wedi i daflenni ymgyrch iechyd gael eu dosbarthu ar dir y Brifysgol.
Mae ymgyrch y GIG yn defnyddio thermomedr gwahanol liwiau i gyfeirio cleifion at y gofal mwyaf addas i'w hanghenion, gan helpu i sicrhau bod Adrannau Achosion Brys yn cael eu defnyddio dim ond ar gyfer salwch neu anafiadau difrifol yn unig.
Mae ap Dewis Doeth bellach ar gael ar-lein i'w lawrlwytho o ffonau Android neu Apple, sydd hefyd yn helpu pobl i ddod o hyd i'r gwasanaeth priodol agosaf atynt. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 27 y cant o bobl sy'n mynd i'r Adrannau Achosion Brys sy'n cael eu derbyn fel achos brys.
Dywedodd Dr Olwen Williams, Pennaeth Staff , Grŵp Rhaglen Glinigol Gofal Cychwynnol, Cymuned a Meddygaeth Arbenigol: "Y gaeaf yw adeg prysura'r flwyddyn i ni, ac mae nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cynyddu bob blwyddyn. Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth mwyaf priodol, gall myfyrwyr ein helpu i helpu pobl sydd wir yn wynebu bywyd neu farwolaeth yn ein hadran achosion brys yn Ysbyty Gwynedd, a helpu staff i roi'r cyfle gorau iddynt.
"Drwy ddefnyddio gwybodaeth yr ymgyrch a'r wybodaeth feddygol leol a gawsant gan y Brifysgol, rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn gwybod pa wasanaeth sy'n gallu darparu'r cymorth gorau iddynt pan fyddant yn sâl neu wedi brifo."
Mae'r myfyriwr nyrsio Beverly Williams yn arwain y gwaith o ddosbarthu'r taflenni o gwmpas Prifysgol Bangor.
Dywedodd: "Mae Dewis Doeth yn arweiniad gwych i fyfyrwyr sydd efallai'n wynebu'r gaeaf cyntaf oddi cartref mewn lle anghyfarwydd ac ymhell o'u ffynhonnell draddodiadol o ofal iechyd. Mae arnom eisiau gwneud yn siwr, drwy eu helpu gyda'r ymgyrch hon, bod ganddyn nhw'r wybodaeth i ddewis y cymorth priodol o'r wybodaeth leol rydym yn ei rhoi iddynt ar ddechrau'r flwyddyn."
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2013