Galwad am Bapurau - Adopting the Cultural Other: Western Participatory Borrowings
Cynhadledd: Adopting the Cultural Other: Western Participatory Borrowings
19-20 Mehefin 2014, Prifysgol Bangor, Cymru
Dywed Ulrich Beck, ‘Transnational place polygamy, marriage to several places at once, belonging in different worlds: this is the gateway to globality in one’s own life.’
Ceir llawer o enghreifftiau o "orllewinwyr" yn mabwysiadu arferion diwylliannol o'r byd datblygol neu ôl-drefedigaethol. Dylanwad diwylliannol yn seiliedig ar nwyddau yw dylanwad Ewrop a Gogledd America yn aml, ond mae'r llif o'r cyfeiriad arall yn tueddu i fod yn un cyfranogol a chymunedol.
Mae gennym ddiddordeb mewn papurau sy'n adrodd am ymchwil neu'n damcaniaethu am ymchwil i ffenomenau o'r fath o feysydd cerddoriaeth, dawns, iaith, crefydd, celf a ffurfiau diwylliannol eraill. Bydd y gynhadledd yn un amlddisgyblaethol a chroesawir cyfraniadau o feysydd ethnogerddoleg, anthropoleg, cymdeithaseg, daearyddiaeth ddiwylliannol a disgyblaethau eraill.
Saesneg fydd iaith y gynhadledd.
Anfonwch grynodebau o 150 o eiriau at: Dr Jochen Eisentraut, musc03@bangor.ac.uk erbyn 1 Tachwedd 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013