Galwch heibio’r siop dros dro
Bydd siop wag yng Nghanolfan Siopa Deiniol yn cael bywyd newydd cyn bo hir lle caiff siopwyr ym Mangor gyfle i brynu anrhegion hyfryd a wnaed â llaw gan bobl ifanc Bangor.
Bydd ffotograffau gwych wedi'u fframio a chrefftau wedi'u cynllunio'n arbennig gan y 'Creative Trading Co.’ yn cael lle canolog am yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl i'r siop agor ar 26 Chwefror.
Tro cynnyrch arall fydd hi ar 3 Mawrth pan fydd yr 'Ugly Foods Shop’ yn rhoi bywyd newydd i ffrwythau a llysiau a wrthodir gan archfarchnadoedd. Er bod y bwydydd hyn yn flasus ac yn iach, nid yw ffrwythau a llysiau siapiau afreolaidd yn cwrdd â'r safonau harddwch confensiynol. Gall siapiau anarferol neu farciau ar y croen olygu na chânt eu rhoi ar silffoedd yr archfarchnadoedd. Ond mae'r siop bwydydd hyll yn credu mai'r hyn sydd o dan y croen sy'n bwysig ac yn cynnig y cyfle i chi eu hachub o'r safleoedd tirlenwi am bris rhad!
Bydd sudd, cawl a smwddis ar werth ar y safle i ddangos pa mor flasus yw bwydydd hyll. Cewch gyfle i brynu bocsys hefyd sy'n cynnwys popeth rydych eu hangen i wneud eich cawl neu eich lobsgóws eich hun gartref.
Pam bod pobl ifanc Bangor yn troi’n siopwyr? Eglurodd Lowri Owen o broject Byddwch Fentrus y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:
"Mae Prifysgol Bangor yn annog ei myfyrwyr i fod yn entrepreneuraidd ac ystyried yr opsiwn o fod yn hunangyflogedig a dechrau eu busnesau eu hunain. Er na fyddant i gyd yn mynd i’r maes diwydiant adwerthu, mae cymryd rhan yn y project hwn yn rhoi blas iddynt o redeg eu busnes eu hunain a'u helpu i ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd mae cyflogwyr eisiau eu gweld."
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Dinas Bangor am roi'r cyfle i ni ddefnyddio'r siop dros dro," ychwanegodd Lowri.
Meddai Gwyn Hughes, Clerc Cyngor Dinas Bangor:
"Fel rhan o'n menter barhaus i adfywio'r Stryd Fawr, rydym yn hynod falch o weithio'n agos gyda Phrifysgol Bangor ar syniadau arloesol i gynnig profiad gwahanol i siopwyr yng nghanol dref na fyddent yn ei gael yn rhywle arall."
Meddai Dan Taylor, myfyriwr Meistr ôl-radd a fydd yn rheoli'r siop dros dro:
"Mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad hollbwysig ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn galluogi myfyrwyr i brofi bod y wybodaeth a gesglir ganddynt wrth wneud eu gradd yn cael effaith ym myd gwaith. Bydd y siop bwydydd hyll yn fan gwerthu i fyfyrwyr fel y gallant ddangos i'r gymuned bod creadigrwydd ac arloesi yn rhan bwysig o'u graddau."
Cefnogir rhaglen Byddwch Fentrus Prifysgol Bangor gan gyllid o Ganolfan Ranbarthol Gogledd Orllewin Cymru Llywodraeth Cymru a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i weithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2015