Gary Clifford o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ei roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol arweinyddiaeth
Mae Gary Clifford, Rheolwr Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ngwobrau hir-sefydledig, a’r unig gystadleuaeth wedi ei neilltuo ar gyfer arweinyddiaeth.
Rhoddwyd Gary ar y rhestr fer yng nghategori Arweinyddiaeth Cymru am y Dyfodol, am ei rôl arweinyddiaeth uchelgeisiol wrth lywio’r Sefydliad drwy gyfnod o dyfiant cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n un o bedwar yn y categori yma.
Mae’r enillwyr o’r gorffennol yn cynnwys unigolion megis Laura Tenison MBE o Jo Jo Maman Bébé, a Mario Kreft MBE, Rheolwr Cartrefi Gofal Parc Pendine. Mae enillwyr gwobrau anrhydeddus yn cynnwys y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan, a hefyd capten rygbi Cymru, Sam Warburton.
Dywedodd Barbara Chidgey, Cadair Gwobrau Arweinyddiaeth Cymru: “Fel arfer, mae gennym gymysgedd eclectig o arweinwyr ac enghreifftiau patrymol o arweinyddiaeth ar draws pob sector yng Nghymru ar gyfer ein rhestr fer eleni. Mae wedi bod yn fraint i ddarllen gymaint o straeon hudol o arweinyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn busnes, sefydliad neu brosiect cymunedol. Fe ydym yn wir werthfawrogi hefyd yr amser a’r ymrwymiad sydd wedi ei roi gan bawb sydd wedi cyflwyno enwebiad. Edrychwn ymlaen i’r Cinio Gwobrau & Seremoni ym mis Mehefin, pryd y cawn ddathlu ein ‘Arweinwyr yng Nghymru’.”
Meddai Gary Clifford: “Mae’n anrhydedd imi gael fy rhoi ar restr fer gwobr cenedlaethol mor fawreddog. Rwyf yr arweinydd yr ydwyf heddiw oherwydd fy nheulu, fy ffrindiau a’m cyd-weithwyr. Rwy’n gweithio gyda phobl rhyfeddol yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, sydd yn gwneud gweithio’n bleser. Mae’r unigolion yma, a’r profiadau rwyf wedi eu rhannu gyda nhw, wedi rhoi hyder imi ymdrin â’r byd gwaith yng Nghymru, ac yn y byd ei hun, efo sêl.”
Ychwanegodd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Chadeirydd Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael: “Mae wedi bod yn fraint gweithio efo arweinydd fel Gary, erbyn hyn ers sawl blwyddyn, ac mae y ffaith ei fod wedi ei roi ar restr fer Gwobrau Arweinyddiaeth Cymru yn gydnabyddiaeth o’i alluoedd arweinyddiaeth, a’i gyfraniad i’n llwyddiant rhyfeddol dros y blynyddoedd diweddar.
“Beth sydd yn neilltuol o ddiddorol am Gary yw ei fod bob amser wedi bod yn arweinydd sydd yn ymwybodol fod yn rhaid i arweinwyr wneud cyfraniad tuag at lwyddiant y Brifysgol (drwy greu amgylchedd sy’n galluogi’r tîm i ffynnu), ac hefyd drwy arwain drwy esiampl – yn achos Gary, mae hyn yn golygu ei fod yn cymryd golwg ffres ar hen broblemau a’u gweld drwy lygaid ffres. Gyda meddwl dargyfeiriol, mae’n aml yn gweithredu techneg a syniadau ar draws disgyblaethau, yn union fel y Dyn Dadeni. Yn amharod i dderbyn datrysiad cyffredin, mae Gary bob amser yn gofyn, sut fedrwn ni wneud hyn yn well? Dyna beth mae arweinwyr yn ei wneud, gwneud pethau yn well i’w tîm, ac maent hefyd yn dod â dulliau arloesol i arfer gwaith, ac hefyd strategaeth.
“Yn amlwg, mae Gary yn rhagori yn y dulliau yma, ac fe fydd pawb yn Ysgol y Gyfraith, Bangor, a’i Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, yn gobeithio y bydd yn llwyddiannus yn y Seremoni Gwobrau yng Nghaerdydd fis Mehefin.”
Mae Gwobrau Arweinyddiaeth Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn awr yn eu deuddegfed blwyddyn. Maent yn ceisio cydnabod a dathlu’r unigolion hynny sydd a’u harweiniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru, ac yn cyfrannu tuag at ddatblygu ffyniant yn ein gwlad. Fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni gwobrau amser cinio, sydd yn cymryd lle yn yr Hilton, Caerdydd, ar ddydd Mawrth, 14 Mehefin.
Am wybodaeth pellach, ewch i : www.leadingwalesawards.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016