Generation Beth yn datgelu cenhedlaeth sy’n gwerthfawrogi eu pleidlais ac yn teimlo’n Ewropeaidd
Mae S4C yn galw ar Gymry ifanc i rannu eu profiadau fel rhan o broject rhyngweithiol Ewropeaidd. Gwahoddir y darlithydd Dr Cynog Prys a myfyriwr doethuriaeth Shân Pritchard, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, i drafod a dadansoddi canfyddiadau’r project sydd â phartneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd.
Mae’r project arloesol hwn, sef ‘Generation Beth’ yn esblygiad o arolwg hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 a elwir yn ‘Generation Quoi’. Y tro hwn, mae 12 o wledydd, gan gynnwys Cymru wedi ymuno â Ffrainc i greu digwyddiad gwirioneddol Ewropeaidd. Mae'r project yng Nghymru yn cael ei arwain gan S4C a'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da.
Ers 2014 mae’r fyfyrwraig Shân Pritchard wedi cael cyfle i weithio gyda Cwmni Da, wrth barhau gyda’i astudiaethau academaidd fel rhan o ysgoloriaeth KESS. Roedd y bartneriaeth wreiddiol yn 2014 mor llwyddiannus nes bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a Cwmni Da yn awyddus i barhau gyda’r trefniant am ddwy flynedd arall. Rhoddodd hyn y cyfle i Shân a’i goruchwyliwr Dr Cynog Prys i gynorthwyo ar nifer o brojectau cyffrous, a’r project diweddaraf yw ‘Generation Beth.’
Prif amcan y project yw llunio portread gonest o’r genhedlaeth sydd rhwng 18 a 34 mlwydd oed. Mae’r project hwn yn brosiect aml-blatfform, sydd â nifer o briodweddau a haenau amrywiol yn perthyn iddo. Y brif elfen yw holiadur ar-lein sy'n holi ynglŷn â phob math o bynciau difyr, o wleidyddiaeth a mewnfudo i gyffuriau a rhyw - ni ellir gwadu n ei fod yn holiadur trwyadl!
Yn deillio o’r bartneriaeth gyffrous hon, gwahoddwyd Dr Cynog Prys a Shân i rannu eu harbenigedd drwy ddadansoddi a thrafod y canfyddiadau. Gwneir hyn mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys ysgrifennu cyfres o erthyglau byrion, sydd i’w gweld ar wefan ‘Generation Beth’.
Yn ôl Dr Cynog Prys:
“Mae o’n wych cael gweithio unwaith eto gyda Cwmni Da a S4C. Mae’r project yma yn un hynod gyffrous ac yn cynnwys partneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd. Mae bron i 550,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y project ledled Ewrop felly mae maint y data a gasglwyd yn sylweddol iawn. Mae’r project yma yn rhoi cyfle gwych i ni gael mewnwelediad i sut mae poblogaeth Cymru, ac Ewrop, yn gweld y byd o’u hamgylch. Rydym yn byw drwy gyfnod o ansicrwydd a newid cymdeithasol mawr yn Ewrop, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu yn y data a gasglwyd hyd yn hyn”.
Dywed Shân:
“Mae Ysgoloriaeth KESS wedi darparu llu o gyfleoedd gwych i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cael cyd-weithio gyda chwmni nodedig fel Cwmni Da ar nifer o brojectau cyffrous wedi bod yn fraint. Yr hyn sy’n arbennig am ‘Generation Beth’ yw pa mor gynhwysfawr â chwbl unigryw yw’r project. Dwi’n hynod o falch fod S4C a Cwmni Da wedi sicrhau fod cynrychiolaeth o Gymru, sydd wedi ein galluogi i ni fel cenedl i gyfranogi yn y project arloesol hwn.”
Mae’r project hwn eisoes wedi ei lansio yng Nghymru, ac er bod y sampl yn gymharol fach ar hyn o bryd, mae’n cynnig cyfle cychwynnol i ni edrych ar rai o’r canfyddiadau mwyaf diddorol hyd yn hyn.
Ni ellir osgoi ei bod yn gyfnod etholiadau yma yng Nghymru, ac mae canfyddiadau’r holiadur yn amlygu gwerth a phwysigrwydd democratiaeth i drigolion Cymru. Dywed 80% o gyfranogwyr rhwng 18 a 34 na allent fod yn hapus heb y cyfle i bleidleisio. Mae’r ganran hon yn sylweddol iawn, ac mewn cyfnod o ansicrwydd yn deillio o’r hinsawdd economaidd bresennol, sy’n dynodi cyfnod o doriadau a chaledi, mae’n ymddangos bod pleidleisio yn nodwedd hollbwysig i’r mwyafrif o ‘Millenials’ Cymru. Wrth gymharu atebion Cymru i’r cwestiwn hwn gyda rhai o wledydd eraill ar draws Ewrop, ymddangosir mai Cymru sydd ag un o’r canrannau uchaf o ymatebwyr sy’n nodi na allent fyw heb bleidlais, yn dilyn Bwlgaria a Groeg.
Mae’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf. O ganlyniad, mae’r cwestiynau o fewn yr arolwg sy’n canolbwyntio ar le Cymru o fewn Ewrop yn hynod o amserol.
Gwelwn o’r data hyd yn hyn fod 53% o gyfranogwyr o Gymru yn nodi eu bod yn teimlo’n Ewropeaidd, tra bod 47% yn nodi nad ydynt. Mae’n bosib dehongli felly nad oes consensws clir ynglŷn â hunaniaeth Ewropeaidd y bobl a holwyd. Ond beth felly am yr Undeb Ewropeaidd ei hun? Mae’r ffigyrau o Gymru yn glir iawn, gyda 66% yn anghytuno y dylid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nododd 25% eu bod yn cytuno a gadael yr undeb, gyda 9% yn dweud nad oes ots ganddynt. Awgryma’r data felly nad yw diffyg hunaniaeth Ewropeaidd o reidrwydd yn golygu bod pobl am adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n bosib bod ffactorau eraill ar waith, er enghraifft, ffactorau economaidd. Ai diwedd y gân fydd y geiniog?
Yn ogystal â’r holiadur, bydd S4C yn dangos cyfres o bedair rhaglen ddogfen sydd yn portreadu pobl ifanc o’r holl wledydd sy’n cyfranogi. Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu ar 13Mai ar S4C. Yn eu plith mae cynrychiolaeth o Gymru, sef y gantores Efa Thomas o Gricieth, sydd o bosib yn fwy adnabyddus fel ‘Efa Supertramp’.
Dywed Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol Cwmni Da:
“Mae’r Ysgoloriaeth KESS wedi ein galluogi ni i alw ar arbenigaeth Shân a Cynog ym maes cymdeithaseg ac mae’r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae mewnbwn y ddau ar brojectau mawr aml-blatfform fel ‘Dyma Fi’ a ‘Generation Beth’ wedi bod yn amhrisiadwy.”
Mae modd i bawb dros 16 mlwydd oed fod yn rhan o’r prosiect drwy gwblhau’r holiadur ar-lein. Cofiwch hefyd am y clipiau fideo ble mae’n bosib clywed cyfranogwyr yn ymateb a thrafod y cwestiynau.
Ewch draw i’r wefan i gymryd rhan - http://generationbeth.s4c.cymru/cy/
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016