Genethod yn STEM: Technocamps yn cynnal digwyddiad i bobl ifanc 11 a 14 oed
Yn ystod hanner tymor y gwanwyn, cynhaliodd y tîm Technocamps yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, ddigwyddiad arbennig i bump ar hugain o ddisgyblion ysgol rhwng 11 a 14 oed.
Thema'r digwyddiad oedd “Pa fath o wyddonydd allwn i fod?” a'r nod oedd cyflwyno i ferched ifanc yr amrywiaeth enfawr o yrfaoedd sydd ar gael iddynt ym maes pynciau STEM, a'u hysbrydoli i ystyried gyrfa yn y gwyddorau. Roedd yn cynnwys cyfres o weithdai a gweithgareddau cyffrous dan arweiniad Technocamps, Prifysgol Bangor a chyflogwyr STEM.
Dechreuodd y diwrnod cyntaf gyda chyflwyniad gan swyddog cyflwyno Technocamps, Dr. Mollie Duggan-Edwards, lle bu'r genethod yn gwylio fideos o nifer o ferched sy'n gweithio, neu'n cael hyfforddiant, mewn maes STEM yn siarad am eu profiadau. Dilynwyd hyn gan weithdy 'Gemau'r Ymennydd' lle bu'r genethod yn gweithio mewn timau ar nifer o heriau datrys problemau. Yn y prynhawn, treuliodd y genethod beth amser yn edrych ar sut mae cymhlethdod arwyneb morgloddiau yn effeithio ar strwythurau ecosystem gyda Peter Lawrence a Paula de la Barra o'r Ysgol Gwyddorau Eigion. Cafodd y genethod gyfle hefyd i hedfan a chodio dronau bach. Daeth y diwrnod cyntaf i ben gyda thaith i'r sinema i'r genethod i wylio 'Doolittle' yng nghwmni digon o bitsa!
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda gweithdy gwych a gyflwynwyd gan Airbus lle'r oedd yn rhaid i'r genethod ddylunio caban a fyddai'n sicrhau elw mwyaf posib i'r cwmni hedfan.
Roedd y prynhawn yn cynnwys gweithdy roboteg prysur a gyflwynwyd gan y Gwyddonydd Niwclear, Megan Owen.
Dechreuodd y diwrnod olaf gyda gweithdy arall gan Megan, y tro hwn yn canolbwyntio ar ei chefndir electroneg.
Daeth y digwyddiad cyfan i ben gyda gweithdy hynod greadigol ar 'ynni'r dyfodol' a gyflwynwyd gan Michelle Symonds o Nwy Prydain.
Mwynhaodd y genethod eu hunain yn eithriadol, gan ddisgrifio’r digwyddiad fel un “anhygoel”, “grymus”, “fe wnaeth y digwyddiad fi’n chwilfrydig i ddysgu mwy”, “diddorol ac ysbrydoledig iawn”, “cofiadwy a difyr.” Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran.
Dyma'r sylwadau a gafwyd gan un o'r rhieni: “Mae fy merch yn llawn cyffro ynghylch yr holl lwybrau newydd sydd wedi'u hagor iddi a dyna pam ei bod yn hanfodol bod Technocamps yn parhau â'u gwaith anhygoel.”
Cymerwyd rhan gan ysgolion o Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych - Ysgol Brynrefail, Ysgol Uwchradd Tywyn, Ysgol Friars, Ysgol Tryfan, Ysgol Uwchradd Eirias, St. Brigid's ac Ysgol Gyfun Llangefni.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2020