Genod yn cael cyfle i ddarganfod gwyddoniaeth
Nid yw dod o hyd i DNA rhinoseros, creu dillad clybio yn electronig na mynd drwy archwiliad diogelwch mewn Gorsaf Bŵer niwclear yn weithgareddau arferol bore Sadwrn i ferched 14 oed.
Ond yn sgil project ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru, bu criw o ferched ifanc yn treulio eu Sadyrnau yn cael blas ar wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg a hynny mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.
Yn gynharach yn y tymor, daeth 12 o ddisgyblion blwyddyn 9 o Ysgol Syr Hugh Owen (Caernarfon), Ysgol David Hughes (Porthaethwy), Ysgol Dyffryn Ogwen (Bethesda) ac Ysgol Tryfan (Bangor), i’r Brifysgol ar gyfer gwahanol weithdai. Y nod oedd annog y merched i ystyried parhau â phynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ar ôl cwblhau eu cyrsiau TGAU.
Roedd y gweithdai a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys: Chwarae Ditectif i Ddatrys Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt (Ysgol Gwyddorau Biolegol); Goleuwch eich bywyd â ffasiwn electronig (Ysgol Peirianneg Electroneg); Mae’n rhyfel ar y lan greigiog! (Ysgol Gwyddorau Môr); Pryfetach a Phlanhigion - y berthynas caru-casáu fwyaf ar y blaned? (Ysgol Gwyddorau Biolegol), a Chregyn: tlysau prydferth ynteu anifeiliaid rhyfeddol? (Ysgol Gwyddorau Môr).
Cynhaliwyd y diwrnod olaf yng Ngorsaf Pŵer Niwclear Wylfa, dan ofal Magnox Cyf. Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch y safle, sgwrs gan ddwy ferch sy'n gweithio fel ffisegwyr yn yr orsaf, ac ymarferiad oedd yn cynnwys ‘ailadeiladu’ y ddwy bont dros Afon Menai dan arweiniad Canolfan Thomas Telford.
“Roedd Prifysgol Bangor yn falch iawn o gynnal gweithdai’r rhaglen Darganfod gyntaf yng Ngogledd Orllewin Cymru" dywedodd Carys Roberts, Pennaeth Recriwtio a Marchnata ym Mhrifysgol Bangor. "Cafodd y merched a gymerodd ran amrywiaeth o brofiadau, a llwyddodd y rhaglen gobeithio i ddangos amrywiaeth o gyrsiau a gyrfaoedd sydd yn agored iddynt yn y meysydd gwyddonol.
“Diolch o galon i’r staff a’r myfyrwyr o’r Brifysgol fu’n rhedeg y gweithdai ar y dyddiau Sadwrn, - roedd y gweithgareddau i gyd i weld yn llwyddiannus iawn yn ôl yr adborth a gafwyd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Yrfa Cymru am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad er mwyn sicrhau llwyddiant y gweithdai."
Dywedodd Claire Burgess, Cydlynydd Datblygiad Proffesiynol ar ran Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin : "Ar y dechrau roedd y merched ychydig yn ddistaw ond yn fuan iawn roeddent yn gyrru ymlaen yn dda ac yn awyddus iawn i gymryd rhan yn y gweithgareddau. Er bod gan rai o'r merched syniadau ynglŷn â'u gyrfaoedd cyn ymuno â'r clwb, rhoddodd gyfle iddynt ystyried syniadau newydd a gwahanol i'r dyfodol.
“Rydym yn hynod falch bod y Brifysgol wedi cytuno i gynnal y rhaglen - y gyntaf yng Ngogledd Cymru. Rhaid hefyd diolch i Magnox a Chanolfan Thomas Telford am gyfrannu fel cyflogwyr ar y diwrnod olaf."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2011