George Osborne yn cyfarfod â'r Food Dudes
Yn ddiweddar, cyfarfu Canghellor y DU, George Osborne AS, â disgyblion ysgol gynradd sy'n dilyn project bwyta'n iach a gynhelir gan fenter gymdeithasol sydd wedi deillio o Brifysgol Bangor.
Mae'r plant yn ysgol gynradd gatholig St Vincent's yn Knutsford, Sir Gaer, yn dilyn rhaglen arbrofol newydd o'r project Food Dudes, a gynlluniwyd i wella bwyta'n iach ymysg plant.
Gan ddefnyddio dulliau newid ymddygiad, mae rhaglenni bwyta'n iach Food Dudes yn cynyddu maint y ffrwythau a'r llysiau y mae plant yn eu bwyta gan leihau maint y bwydydd melys a brasterog y maent yn eu bwyta. Dechreuodd y cynllun drwy gyfres o brojectau ymchwil yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, dan arweiniad yr Athro Fergus Lowe, ac erbyn hyn mae'r rhaglenni wedi cyrraedd dros hanner miliwn o blant ac mae'r cynllun yn ymestyn yn gyflym ar draws gwledydd Prydain a lansiwyd cynlluniau llwyddiannus hefyd yn yr Unol Daleithiau a'r Eidal.
Yn St Vincent's mae'r rhaglen yn cael ei chynnal gan ddosbarth Blwyddyn 4 yr ysgol. Fe wnaeth eu hathrawes, Mrs Bullen, roi golwg gyffredinol ar y rhaglen ac egluro'r gweithgareddau roedd y plant wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod yr arbrawf yn yr ysgol.
Meddai George Osborne, Ganghellor y Trysorlys a'r AS dros Tatton:
"Fe wnes i gyhoeddi yn Natganiad yr Hydref y bwriad i roi prydau bwyd am ddim i blant cyfnod allweddol un yn Lloegr. Felly, mae'n wych bod mewn ysgol leol yn fy etholaeth yn Tatton, i weld sefydliad lleol yn cynnal rhaglen gyda'r bwriad o annog plant i wneud dewisiadau bwyta'n iach."
Efo'r dystiolaeth sydd y tu ôl iddi, bydd rhaglen Food Dudes a chynlluniau tebyg i'r rhain yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad y llywodraeth mewn prydau ysgol am ddim nid yn unig yn helpu teuluoedd sy'n gweithio'n galed o ran y gost, ond y byddant hefyd yn cael effaith wirioneddol ar helpu i wella bwyta'n iach."
Meddai Roisin Moores, Pennaeth ysgol St Vincent's:
"Mae'r plant wedi mwynhau eu hunain yn fawr yn gwylio'r ffilmiau digri am y Dudes, a chymryd rhan mewn sesiynau blasu a chael gwobrau'r Dudes. Mae'r rhaglen yn un arbennig o dda i newid arferion bwyta'r plant drwy weithgareddau llawn hwyl."
Dyma fel yr eglurodd Yr Athro Fergus Lowe, Cadeirydd Food Dudes: "Bwriad Food Dudes yw rhwystro gordewdra ymysg plant - un o faterion iechyd cyhoeddus mwyaf difrifol ein cyfnod - ac mae digonedd o dystiolaeth ar gael yn dangos ei effeithiolrwydd i helpu plant i wneud dewisiadau bwyta'n iach."
Erbyn yr adeg y maent yn gadael ysgol gynradd mae mwy na thraean holl blant Gogledd Orllewin Lloegr yn rhy drwm neu'n ordew, sy'n cyfrannu at lawer o afiechydon cronig megis diabetes Math 2 a chlefyd y galon. Mae Food Dudes yn arweinydd ym maes atal gordewdra ac mae eu rhaglenni wedi'u sefydlu ar gyfoeth o dystiolaeth o sawl gwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2013