Gofalwyr ifanc yn cael blas ar Brifysgol
Gwahoddwyd gofalwyr ifanc sy’n byw ar draws Gogledd Cymru i gael blas ar fywyd prifysgol ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Daeth saith ar hugain o bobl ifanc, rhwng 15-20 oed, i fwynhau’r profiad blasu preswyl cyntaf yng ngogledd Cymru a gafodd ei gynllunio'n benodol ar eu cyfer. Roedd hyn yn bartneriaeth rhwng Canolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac Action for Children.
Roedd y bobl ifanc o brojectau gofalwyr ifanc Ynys Môn a Gwynedd, gwasanaeth Action for Children sy'n cefnogi gofalwyr ifanc 5-18 oed. Mae’r projectau’n codi ymwybyddiaeth, nodi a darparu cymorth uniongyrchol i blant a phobl ifanc sy'n edrych ar ôl neu’n helpu i ofalu am rywun yn eu teulu sy'n sâl neu ag anableddau, gan gynnwys gofal plant dros rieni sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.
Esboniodd Delyth Murphy, Cyfarwyddwr Canolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor:
"Un o nodau'r sesiwn preswyl cyntaf hwn oedd gweithio gyda gofalwyr i weld sut y gall y Brifysgol weithio i leihau rhwystrau iddynt i ddilyn cwrs addysg uwch. Cafodd y bobl ifanc flas ar wahanol weithgareddau, sesiynau academaidd, taith o amgylch y Brifysgol a chyfle i gymdeithasu. Cawsant hefyd gyfle i drafod pa gymorth ariannol a phrofiad gwaith a chyfleoedd a fyddai ar gael iddynt."
Dywedodd Maria Bulkeley, arweinydd tîm Action for Children ar gyfer gofalwyr ifanc Ynys Môn a Gwynedd:
"Roedd hyn yn gyfle amhrisiadwy i’n gofalwyr ifanc ystyried llwybr nad oeddent yn credu ei fod ar gael iddynt efallai. Ceir llawer o bobl ifanc yng ngogledd Cymru sy'n gofalu am rywun yn y cartref ac maen nhw’n wynebu rhwystrau nad yw pobl ifanc eraill ddim yn eu wynebu, a gallant deimlo nad yw addysg uwch yn gyfle sydd ar gael iddynt oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu.
"Cafodd cyfle i aros ym Mhrifysgol Bangor, cwrdd â myfyrwyr a deall y cymorth bugeiliol ac ariannol sydd ar gael os ydynt am anelu i ddilyn cwrs yno effaith aruthrol ar ein pobl ifanc. Mae hon yn fenter wych."
Dywedodd Elizabeth Taylor, Swyddog Addysg Cymru Ymddiriedolaeth Gofalwyr:
"Mae’r project Amser i Leisio'n Barn, yn pwysleisio’r rhwystrau sy'n wynebu gofalwyr ym myd addysg, addysg uwch yn benodol. Mae methu â chwblhau graddau oherwydd cyfrifoldebau gofalu am deulu yn broblem fawr. Mae mynd i brifysgol yn anodd i bawb, ond mae'n anoddach i ofalwyr ifanc. Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn gwbl ymroddedig i ofalwyr ac wedi dangos inni faint mae'n olygu iddynt i gynorthwyo gofalwyr, ac ni allai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fod yn hapusach ynghylch hynny."
Dywedodd Ceinwen Jones o Dinorwig:
"Roedd yn hwyl a chefais gwrdd â llawer o bobl yn mynd drwy'r un peth â mi . Felly roeddwn yn gyfforddus iawn, a chefais gyfle i ddysgu am yr hyn rwyf am ei wneud yn y dyfodol o ran mynd i brifysgol."
Dywedodd Jessica Hartshorne o’r Rhyl:
"Rwy'n sylweddoli bod llawer mwy o gymorth a chyllid ar gael i ofalwyr ifanc nag yr oeddwn cyn dod i’r digwyddiad."
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017