Golwg o’r newydd ar ryfeddodau pob dydd wrth i’r celfyddydau a gwyddoniaeth ddod at ei gilydd yn Pontio
Bydd cynllun arloesol Synthesis, sydd wedi ei arwain gan Pontio ac sy’n dod a’r celfyddydau a gwyddoniaeth ynghyd, yn cynnal diwrnod darganfod hwyliog i’r cyhoedd yn y ganolfan dydd Sadwrn nesaf 22 Mehefin rhwng 2-6pm.
Mae rhoi halen ar eich bwyd neu synnu ar aderyn gosgeiddig yn hedfan yn ryfeddodau pob dydd, ond mewn oes mor brysur prin iawn yw’r amser sydd ar gael i feddwl amdanynt rhyw lawer. Mae dau broject wedi eu comisiynu gan Pontio drwy gynllun Synthesis yn ceisio gwneud da â hynny drwy gymryd golwg manwl ar ffenomenau naturiol crisialu halen a hedfan adar, ac yn esbonio mwy am y gwyddoniaeth y tu ôl iddynt a’r gwir harddwch y gellir ei ddarganfod trwy grafu dan yr wyneb.
Mae “Carnifal ar Adenydd’, wedi ei arwain gan y cerddor a’r artist symud Colin Daimond, y gwyddonydd adar Dr Kristen Crandell, a’r artist rhyngddisgyblaethol Peter Powell , yn edrych ar anatomi, ffiseg a harddwch adar yn hedfan yn eu hamgylchfyd naturiol.
Mae ‘Amser-Araf’ gan yr artist rhyngddisgyblaethol Rachel Rosen a’r arbenigwr mewn Cemeg Cynaliadwy Dr Vera Fitzsimmons-Thoss yn edrych ar fyd swynol crisialau halen ac yn mynd â ni ar siwrne weledol i fyd atomig, gan edrych o dan y meicrosgop a gwylio wrth i rhywbeth ‘rydych yn ei ddefnyddio pob dydd newid yn araf deg.
Yn ystod y diwrnod rhannu ar Ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, bydd y ddau grwp yn cyflwyniad eu project ac yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddysgu, darganfod a mwynhau gwyddoniaeth a’r harddwch a chelfyddyd sydd yno, dim ond i ni edrych ychydig yn agosach. Bydd y digwyddiad yn addas i bawb.
Bydd project ‘Carnifal ar Adenydd‘ yn cynnig digwyddiadau amrywiol gan gynnwys adeiladu modelau o anatomi adar o ddeunydd wedi ei ailgylchu, a phrofi heriau llif awyr a phatrymau heidio. Bydd y cyhoedd yn cael cymryd rhan ym pherfformiadau ‘Carnifal ar Adenydd’ – paredau hwyliog drwy Pontio gyda dawnswyr lleol, pypedwyr a band ‘samba’ Bloco Sŵn.
Draw ar broject ‘Amser-Araf’, bydd rhagor o gyfleon crefftio wrth i’r cyhoedd ymddwyn fel ‘catalyddion cemegol’ yn y broses o grisialu drwy helpu gwneud crisialau anferth sy’n tyfu dros rhan o adeilad Pontio am y diwrnod. Bydd y Theatr Stiwdio yn y cyfamser yn fewnosodiad rhyngweithiol am y diwrnod, gyda arddangosfa o arteffactau o’r broses o arbrofi, gan gynnwys crisialau halen a gwrthrychau wedi eu gorchuddio gan, neu eu cyrydu gan halen. Bydd modelau, delweddau a tafluniadau sy’n archwilio crisialad ar raddfeydd a chyfnodau gwahanol, gan gynnwys tafluniadau arbennig ar dreigl amser o grisialau’n tyfu. Ar yr awr o 3pm, bydd sgyrsiau ‘gwyddoniaeth ar y soffa’, gydag arbenigwyr yn y maes gan gynnwys Alison Lea-Wilson o Halen Môn, Dr Leigh Jones, darlithydd mewn Cemeg ym Mhrifysgol Bangor a’r rhai sy’n cydweithio ar y project.
Meddai Rachel Rosen o Amser-Araf, “Fel artist, mae gweithio ar y project yma’n edrych ar grisialad halen wedi bod yn brofiad gwych gan ei fod wedi agor i fyny ffordd hollol wahanol o edrych ar ddeunyddiau i mi – fel rhywbeth deinamig, newidiol, sy’n tyfu a datblygu.”
“Mae’n gwaith ni’n arbrawf byw – rwy’n hoffi chwarae gyda gofod, golau ac amser – ac mae hyn yn cyfuno’n dda gyda’r technegau gwyddonol sy’n cael eu defnyddio i edrych ar brosesau crisialad a’r ffyrdd o rannu’r wybodaeth yma gyda phobl. Felly gobeithio y byddwch yn mwynhau ein anturiaethau dimensiynol!
Ychwanegodd Colin Daimond, sy’n arwain yn artistig ar Carnifal ar Adenydd, “I mi mae’r project yma’n dod a ffocws newydd i bethau pob dydd: ffiseg a mecanyddiaeth, bioleg ac ecoleg, cerddoriaeth a dawns, celfyddyd a chreadigwrydd. Bydd rhywbeth i bawb ar y diwrnod ac rydym yn edrych ymlaen i weld y cyhoedd yn cymryd rhan yn yr hwyl fel rhan o berfformiadau ‘Carnifal ar Adenydd’.
Synthesis 19: Carnifal ar Adenydd ac Amser-Araf
Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2-6pm, Pontio, Bangor
Drwy’r adeilad
Digwyddiad AM DDIM does dim angen tocyn ond bydd llefydd yn brin ar gyfer rhai digwyddiadau
Gweler mwy ar www.pontio.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019