Gradd Addysg ym Mangor wedi arwain at lwyddiant pellach i entrepreneur ym maes addysg
Mae enillydd Gwobr Entrepreneuraidd genedlaethol yn dweud bod ei llwyddiant o ganlyniad i gwrs Meistr yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor.
Dyfarnwyd Gwobr Alumni Entrepreneuraidd y Cyngor Prydeinig yn Azerbaijan i Ms Ayan Aliyeva, o Baku, Azerbaijan.
Yn ogystal â bod yn sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol canolfan addysg hynod lwyddiannus sy'n tyfu, gyda nifer o ganghennau yn darparu addysg yn Baku, mae Ms Aliyeva wedi cyflwyno cynlluniau moderneiddio, fel cyfleoedd datblygu proffesiynol a phrif ffrydio disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, sydd wedi trawsnewid addysg yn Azerbaijan.
Meddai:
"Roedd astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi cael effaith fawr ar ddatblygu ac ehangu fy musnes."
Dechreuodd Ms Aliyeva fel athrawes ran-amser, ac yn gyflym daeth yn berchennog ar yr ysgol iaith lle bu'n gweithio, ac a ail-enwyd yn Ganolfan Addysg Safon Uwch. Bellach mae gan y Ganolfan chwe choleg tiwtorial a cholegau addysg dramor ar draws Baku. Mae hefyd yn gyd-sylfaenydd Canolfan Sefydliad y Brifysgol.
Gan gydnabod gwerth datblygiad proffesiynol parhaus, dilynodd Ms Alyieva gwrs rhan-amser MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai:
"Heb or-ddweud, roedd y radd a'r profiad a gefais yn astudio yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ffyniant fy musnes ac wrth ddatblygu nifer o raglenni hollbwysig mewn addysg i gymdeithas Azerbaijan a'r gymuned lle rwyf yn byw. Yn ogystal â chynyddu fy musnes, lluniais strategaethau a defnyddio dulliau i wella fy ysgolion, sydd o fudd i'r gymuned a fy musnes hefyd.
Daeth y llwyddiant mwyaf hollbwysig o ganlyniad i ddilyn y Modiwl Addysg Arbennig. Yn Azerbaijan, yn anffodus, fel yn y rhan fwyaf o wledydd ôl-Sofietaidd, mae'r ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac anghenion arbennig eraill yn isel iawn. Mae plant ag anghenion arbennig y tu allan i addysg brif ffrwd. Ar ôl dilyn y modiwl ym Mhrifysgol Bangor, penderfynais weithredu dulliau a strategaethau i gynnwys myfyrwyr ag anghenion arbennig yn yr ystafell ddosbarth gyffredin"
Dechreuodd Ms Alaiyeva hyfforddi athrawon eraill a chynnal gweithdai gan ddechrau newid agweddau.
Meddai: "Rydym ers hynny wedi sicrhau bod nifer o fyfyrwyr gydag ystod o anawsterau dysgu yn cael eu hintegreiddio'n llwyddiannus i ddosbarthiadau prif ffrwd."
Roedd Ms Aliyeva hefyd yn gweld gwerth yn ffocws y DU ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac mae wedi defnyddio hyn yn ei busnes.
Dywedodd fod yr MA mewn Addysg wedi ei harwain i ddeall swyddogaeth pennaeth sefydliad addysg fel arweinydd sy'n gorfod gweithio'n gyson tuag at wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Roedd ei gradd mewn Addysg wedi ei galluogi i ddatblygu ei busnes, trwy wella ansawdd addysg. O ganlyniad, derbyniodd nifer o geisiadau i rannu'r hyn roedd wedi ei ddysgu, hyfforddi addysgwyr eraill a rhannu ei syniadau trwy sgyrsiau TED a chynlluniau eraill.
Mae hi'n teimlo'n angerddol am alluogi plant ac oedolion i gael mynediad at addysg a rhannu eu dysgu. Ychwanegodd:
"Fy mhrif flaenoriaeth yw sicrhau bod addysg ar gael i bob lefel o gymdeithas. Nid yw hyn yn bosibl dim ond os oes rhagor o fyfyrwyr yn astudio dramor ac yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiad ar ôl iddynt ddychwelyd.
Dywedodd yr Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol:
"Rydym yn falch iawn o lwyddiant ein holl raddedigion a'u cyfraniad i addysg, ond mae gweld llwyddiannau Ayan yn arbennig o galonogol. Mae wedi datblygu'r hyn a ddysgodd yn ystod ei gradd, ac yn arbennig y gwaith blaenllaw rydym yn ei wneud ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac wedi ymdrechu i ddefnyddio ei gwybodaeth i sicrhau newid. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol."
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018