Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i Eira
Mae Eira Winrow, 38, sydd yn wreiddiol o Gaergybi, newydd raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth gyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.
Dywedodd Eira, sydd yn fam brysur i ddau o blant ifanc: "Mae graddio yn deimlad anhygoel! Mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd ond pleserus iawn ac rwyf ar goll yn barod heb ddim i’w astudio . Fedrai ddim disgwyl i ddechrau fy ngradd Meistr ym mis Medi.
Ychwanegodd: "Ar ôl gadael ysgol, roedd fy ngŵr a minnau’n gweithio yn rhedeg tai bwyta a thafarndai llwyddiannus yn Blackpool cyn symud yn ôl i Fangor yn 2004. Roeddwn i'n mwynhau'r swydd am flynyddoedd ond ar ôl genedigaeth fy ail blentyn dechreuais feddwl am newid cyfeiriad ac felly fe adewais fy swydd ac fe wnaeth fy ngŵr ddechrau rhedeg yr Antelope ym Mangor.
"Wrth astudio gyda'r Brifysgol Agored, fe wnes i sylweddoli fy mod yn gwir fwynhau dysgu mwy am y Gwyddorau Cymdeithas ac fe benderfynais wneud cais i astudio am radd Polisi Gofal Cymdeithasol / Iechyd a Chymdeithasol ym Mangor ac roeddwn wrth fy modd pan ges i gynnig lle. Mae'r gweddill yn hen hanes!
"Dewisais Fangor oherwydd, fel myfyriwr hŷn gyda theulu ifanc, roedd mor gyfleus ac mae gan Brifysgol Bangor enw da. Roeddwn yn gweithio pan allwn i ac roeddwn yn ffodus iawn fy mod yn gallu dewis fy oriau yn yr Antelope! Roedd bod yn fam hefyd yn fy nghadw'n brysur iawn; ceisio cadw cydbwysedd rhwng bywyd cartref a’r astudio oedd yr her fwyaf.
Ychwanegodd Eira: "Mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel; mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys cael A + am fy nhraethawd hir, A * am un o fy nhraethodau arholiad terfynol a phasio bob blwyddyn gyda graddau dosbarth cyntaf - pan fyddaf yn penderfynu gwneud rhywbeth rwyf yn trio fy ngorau glas!
"Rwy'n siŵr mai astudio fel myfyriwr hŷn oedd y ffordd orau i mi gan nad wyf yn credu fy mod yn barod i astudio ar y lefel hon pan oeddwn yn 17 oed.
"Roedd fy mhlant yn 4 ac 1 oed pan ddechreuais fy ngradd, felly roedd cael cydbwysedd rhwng astudio a magu plant yn anodd. Roeddwn yn teimlo’n euog ar aml i achlysur pan oeddwn yn aros yn hwyr yn y llyfrgell neu’n methu mynd allan gyda'r teulu ar benwythnos. Ond yn y pen draw, roeddwn yn trin astudio fel swydd - os na fuaswn wedi troi at astudio byddwn yn sicr o fod wedi gweithio’n llawn-amser.
Am y dyfodol, dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau gradd Meistr (Ymchwil Polisi Cymdeithasol a Gwerthuso) ym mis Medi, ac fe hoffwn ddilyn gyrfa academaidd ac ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Byddaf yn siarad gyda fy narlithwyr am gyfleoedd PhD cyn gynted ag y gallaf! "
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013