Gradd Gyntaf a Gwobr i Llio
Bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn dathlu’r wythnos hon drwy raddio gyda gradd dosbarth cyntaf a hefyd ennill gwobr am ei gwaith caled.
Bydd Llio Mai Hughes, 21, o Fryngwran, Ynys Môn yn graddio’r wythnos hon gyda BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn ogystal â derbyn gwobr Syr John Morris Jones. Sefydlwyd y wobr dros ddeugain mlynedd yn ôl ac fe’i dyfernir i'r myfyriwr/myfyrwyr a gafodd y canlyniadau gorau yn eu harholiadau gradd.
Meddai Llio: “Mae graddio gyda gradd dosbarth cyntaf yn fraint ac mae’n braf cael canlyniad mor dda yn dilyn yr holl waith caled. Dwi wir wedi mwyhau’r tair blynedd diwethaf ym Mangor ac rwy’n edrych ymlaen at ddod yn ôl fis Medi i barhau â’m hastudiaethau.
“Cefais fy addysg uwchradd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yno y dechreuais feddwl o ddifrif am ysgrifennu creadigol. Astudiais y Gymraeg fel pwnc Lefel A ynghyd â Thechnoleg Gwybodaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Enillais y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn 2010 a rhoddodd hynny’r hyder i mi benderfynu dilyn cwrs Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yn y Brifysgol.
“Dewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd roedd y cwrs yn fy siwtio i’r dim ac yn cynnig llawer o amrywiaeth. Mynychais un o’r diwrnodau agored ac roedd y darlithwyr yn hynod gyfeillgar. Roeddwn yn teimlo’n gartrefol iawn yno ac yn gwybod mai Prifysgol Bangor oedd yr un i mi!
“Roeddwn yn aelod o UMCB a’r Gymdeithas Ddrama Gymraeg. Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn creu cyfleoedd gwych i gyfarfod ffrindiau newydd a chymdeithasu, fel Aelwyd JMJ. Ni fyddai fy mhrofiad yn y Brifysgol wedi bod cystal heb UMCB. Fe ailsefydlwyd y Gymdeithas Ddrama Gymraeg eleni, ac rwyf wedi mwyhau bod yn rhan o’r broses. Bu’n ddiddorol ymchwilio i hanes y gymdeithas ac roedd y gweithdai drama’n llawn hwyl. Roedd hi’n gymdeithas hynod boblogaidd yn ei dydd, ac rwy’n gobeithio y bydd yn ffynnu unwaith eto.
Bydd Llio yn dychwelyd i’r Brifysgol ym mis Medi i ddilyn cwrs MA Ysgrifennu Creadigol, wedyn mae’n bwriadu mynd ymlaen i wneud cwrs TAR Uwchradd er mwyn bod yn athrawes Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013