Graddedigion Bangor yn dathlu cyrraedd rhestr fer Gwobrau BAFTA Cymru
Mae tri o raddedigion cwrs MA Filmmaking Prifysgol Bangor yn dathlu'r mis yma wrth i'r cynhyrchiadau teledu y bu iddynt weithio arnynt gyrraedd rhestr fer BAFTA Cymru.
Cyfrannodd Lee Carson fel aelod o griw'r addasiad arbennig gan y BBC o drioleg arobryn un i Gymrodorion Prifysgol Bangor Philip Pullman, His Dark Materials, sydd wedi ei nomineiddio y y categori Drama Deledu Orau ymysg categorïau eraill.
Cyfrannodd Rory Farmer a Robert Zyborski ar y camera ar gyfer yr enwebiad am Cyfres Ffeithiol Orau, Ysgol Ni: Maesincla sy'n dilyn disgyblion ac athrawon yr ysgol mewn rhaglen ddogfen bry-ar-wal gynnes.
Meddai Lee Carson, aeth o'r MA Filmmaking i weithio ar His Dark Materials,
"Roedd yr MA Filmmaking ym Mhrifysgol Bangoryn fy ngalluogi nid yn unig i adeiladu ar fy ngwybodaeth ymarferol o wneud ffilmiau, ond yn bwysicach fyth yn rhoi mewnwelediad angenrheidiol i mi o sut mae'r diwydiannau creadigol yn gweithio yn y byd go iawn tu hwnt i'r brifysgol.'
'Heb os, roedd y cyfleon gefais i o astudio'r cwrs yn hanfodol o ran fy ngalluogi i i weithio ym myd teledu o gwmpas y DU ac yn rhyngwladol."
Ychwanegodd Rory Farmer, "Rhoddodd yr MA Filmmaking yr hyder a'r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau. Hebddo, fyddwn i ddim wedi creu'r cysylltiadau alluogodd i mi fynd i weithio fel gwr camera ar y rhaglen ddogfen arbennig hon. Dwi'n meddwl fod yr MA yn rhoi sylfaen da i chi o ran ffuglen a ffeithiol ac yn eich paratoi chi'n dda ar gyfer y diwydiant."
Meddai Joanna Wright, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfryngau yn Ysgol Cerdd a Chyfryngau Prifysgol Bangor, "Mae'n wych gweld cyn-fyfyrwyr o'n cwrs yn cael cynrychiolaeth mor dda yn y diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, ac yn destament i dalent y myfyrwyr sy'n dod i Fangor i astudio cynhyrchu ffilm. Rydym yn falch iawn o sgôp yr MA, o'r cysyniad a'r datblygiad creadigol i'r broses o greu ffilm ac wedyn ei dosbarthu a'i marchnata. Rhaid sôn hefyd am lwyddiant un o'n siaradwyr gwâdd ar grefft Sain, Alex Ashcroft, gafodd ei nomineiddio ar gyfer Sain Gorau am ei ffilm arobryn The Last Tree."
Bydd enillwyr Gwobrau British Academy Cymru 2020 yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni ddigidol ar 25 Hydref, 19:00 GMT ar blatfformau digidol BAFTA, gyda Alex Jones yn cyflwyno.
Am ragor o wybodaeth am yr MA Filmmaking: Concept to Screen ewch i'r wefan: https://www.bangor.ac.uk/cyrsiau/olraddedig/filmmaking-concept-to-screen-ma
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020