Graddedigion Bangor - yn fwy bodlon na'r myfyriwr cyfartalog
Wrth i'r ymgiprys blynyddol am leoedd prifysgol ddechrau, bydd y myfyrwyr hynny sy'n troi eu golygon at Brifysgol Bangor yn falch o wybod y byddant yn ymuno â rhai o fyfyrwyr mwyaf bodlon Cymru.
Mae canlyniadau’r arolwg cenedlaethol diweddaraf ar foddhad myfyrwyr yn rhoi darlun cadarnhaol iawn o’r addysg a'r gofal a roddir i fyfyrwyr prifysgol Bangor.
Unwaith eto eleni, mae 86% o’r myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Bangor wedi adrodd eu bod yn fodlon ar eu profiad yn y brifysgol, lefel boddhad sy’n uwch na chyfartaledd Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r canlyniadau’n gosod Bangor ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd, yn gydradd ail ymysg prifysgolion Cymru.
Roedd y myfyrwyr a raddiodd yn yr Ysgol Addysg, yr Ysgol Seicoleg, a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn arbennig o fodlon ar eu profiad, ac o ganlyniad mae'r Ysgolion hynny ymysg y rhai gorau yn y pynciau hynny yn y Deyrnas Unedig o safbwynt profiad myfyrwyr
Gosodwyd yr Ysgol Addysg yn y safle uchaf yn y Deyrnas Unedig o ran boddhad myfyrwyr, Seicoleg yn y pumed safle a Gwyddorau Chwaraeon yn y 10fed safle.
“Gyda phob blwyddyn sy'n mynd heibio, ein nod yw gwella ymhellach brofiad myfyrwyr ym Mangor," meddai'r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr yn rhoi gwybodaeth bwysig i ddarpar fyfyrwyr sy’n gwneud ymchwil ar ba gwrs i'w ddilyn ym mha brifysgol. Yma ym Mangor rydym yn canolbwyntio ar ddarparu profiad addysgu a dysgu o'r ansawdd gorau i’n myfyrwyr. Mae canlyniadau’r arolwg hwn a’n harolygon ein hunain yn ein helpu i wella addysg a phrofiad ein holl fyfyrwyr" ychwanegodd.
Addysgu, asesu ac adborth oedd y meysydd a sgoriwyd uchaf gan fyfyrwyr Bangor, gyda’r lefelau boddhad yn uwch na’r cyfartaledd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2011