Graddedigion Bangor yn lansio gwasanaeth DNA unigryw
Mae dau o raddedigion Bioleg Forol Prifysgol Bangor wedi lansio gwasanaeth storio DNA unigryw i berchnogion anifeiliaid anwes, sy'n gallu ategu neu ddisodli microsglodion.
Credai Richard Storey a Daniel Struthers, sydd wedi sefydlu cwmni PetGen, mai dyma’r unig gwmni yn y byd sy’n ymroddedig i echdynnu DNA a’i storio at ddibenion diogelwch, adnabod ac atal lladrad anifeiliaid anwes.
Cafodd Richard y syniad i sefydlu’r busnes yn ystod ei gyfnod yn astudio gradd Feistr mewn Ecoleg ym Mangor. Wrth astudio geneteg anifeiliaid, sylweddolodd Richard fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer dull hollol di-ymledol o adnabod anifeiliaid anwes.
Gan ddefnyddio cit arbennig sy’n hawdd ei defnyddio, gall berchnogion gymryd swab ceg o’u hanifail anwes a’i bostio at PetGen, lle caiff ei drin a’i storio am hyd at 50 mlynedd a’i ychwanegu i’w cronfa ddata.
Bob blwyddyn mae 300,000 o anifeiliaid anwes ym Mhrydain yn mynd ar goll neu yn cael eu dwyn, ac mae’r proffil DNA yn darparu tystiolaeth werthfawr i adnabod anifail anwes, os oes anghydfod dros berchnogaeth.
Eglurodd Richard, "Yn sicr mae’r radd Feistr astudiais ym Mangor wedi bod o gymorth i mi gyda’r busnes, gan mai wrth wneud gwaith yn y labordy cefais y syniad i sefydlu PetGen.
“Mae wedi cymryd blwyddyn i ni sefydlu’r cwmni ac rydym yn gobeithio ehangu’r gwasanaeth i gynnwys anifeiliaid bach neu eiddil eraill fel koi a chrwbanod, lle mae storio DNA yn fwy manteisiol na defnyddio microsglodion.”
Am fwy o wybodaeth, ewch at www.petgen.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012