Graddedigion Gardd Fotaneg Frenhinol Kew yn heplu allan yn Botanical Beats
Gŵyl gerdd haf fwyaf Bangor, lle mae bandiau lleol, celfyddwyr ac arddangoswyr o fudiadau bywyd gwyllt lleol yn ymgasglu yng Ngardd Fotaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth i fwynhau cerddoriaeth, celf a bywyd gwyllt! Mae'n debyg taw dyma'r unig gyfuniad yn y byd o'i fath, yn cymysgu gŵyl gerdd a bio-amrywiaeth! Mae hyd yn oed gennym ni ein band ein hunain yn yr ardd! Y flwyddyn hon fe fyddwn yn cael ein helpu gan wirfoddolwyr arbennig o'r Ardd Fotaneg Brenhinol yn Kew!
Bydd Botanical Beats yn cael ei gynnal o 1yh ar ddydd Sul 5 Mehefin, yng Ngardd Fotaneg Treborth. Cost mynediad yw £6 wrth y giât (plant am ddim), ac mae'r rhanfwyaf o weithgareddau y tu fewn yn rhad ac am ddim. Fydd bws am ddim yn mynd o orsaf drenau Bangor i'r Ardd, felly fydd hi'n hawdd cyraedd. Am fwy o wybodaeth, neu i wirfoddoli, cyrchwch www.botanicalbeats.org.uk.
Bob blwyddyn mae Gardd Fotaneg Treborth yn derbyn grŵp o fyfyrwyr o Kew fel rhan o'u Diploma 3-blwyddyn mewn Garddwriaeth. Mae Curadur Treborth, Nigel Brown, sydd hefyd yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Mangor, yn treulio'r wythnostyn adlonni a dysgu'r ymwelwyr o Kew gyda'r ystod eang o gyfoeth fotanegol a ddaearegol sydd gan Ogledd Cymru i'w gynnig, gan gynnwys taith i Ddyffryn Ogwen yn dilyn ôl traed Charles Darwin. Mae grŵp o raddedigion yn ymweld y tro yma, i helpu dros benwythnos Botanical Beats er mwyn wneud y diwrnod yn un i'w gofio.
Dywedodd Jess, graddedig o Kew, ‘Ry'n ni'n methu aros, roedd rhai ohonon ni'n siarad amdani'r diwrnod o'r blaen. I mi, Nigel yn sicr oedd y darlithwr orau ar y cwrs.’
Mae'r digwyddiad blynyddol hon wedi tyfu ers ei ddechreuadau syml, ac mae hi nawr yn cynnwys ystod eclectig o gerddorion o amryw o lefydd yng Ngogledd Cymru a thu hwnt, ar dri llwyfan gwahanol, pob un wedi'u bŵeru gan bŵer solar.
“Y flwyddyn hon mae'r digwyddiad yn digwydd mewn cysylltiad â 'addewid i natur' Wythnos Bioamrywiaeth Cymru Biodiversity Week ‘pledge4nature’ ac yn dathlu Blwyddyn Coedwigoedd yr UN. Fe fydd mudiadau lleol ar gyfer natur a bywyd gwyllt yn ein addysgu a'n syfrdanu gyda dygwyddiadau a stondinau'n rhoi'r cyfle i chi gael cipolwg ar greuaduriadaid a phlanhigion o bryfed i blanhigion ysglyfaethus i goed ffosil. Gweithgareddau celf a chrefft i ddiddanu'r hen ac ifanc, o greu papur i wau ac o sgiliau syrcas i ddawnsio gwerin, gyda cherddoriaeth wrth law o'r llwyfannau byw amrywiol. "Ers dwy flwyddyn nawr rydym wedi bod yn bartneriaid gyda Diwrnod Wyllt Allan BBC Springwatch," esbonia Rachel Bolt, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor a chadeirydd Grŵp Gweithredu Myfyrwyr dros Treborth (STAG).
Trefnir Botanical Beats gan STAG a Ffrindiau Gardd Botaneg Treborth (FTBG), er mwyn codi arian tuag at brosiectau yn yr ardd. Defnyddiwyd yr arian a godwyd ar ddigwyddiadau'r gorffenol i dalu am bwll newydd, gwella effeithlonrwydd-egni'r adeiladau, ehangu casgliad planhigion yr ardd a phrynu tractor newydd. Y gobaith yw y bydd yr arian a godir y flyddyn yma'n talu am system i gasglu dŵr glaw er mwyn lleihau ein effaith ar yr amgylchedd, a thŷ gwydr newydd fel cartref i gasgliad o redyn.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011