Graddedigion Prifysgol Bangor yn uchel eu parch ymysg prif gyflogwyr
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymysg y 40 prifysgol orau yn y DU o ran cynhyrchu’r graddedigion gorau yn ôl arolwg rhyngwladol a gyhoeddwyd gan gylchgrawn y Times Higher.
Datgelodd yr arolwg, a ganolbwyntiodd yn bennaf ar fusnesau a chwmnïau technoleg gwybodaeth a pheirianneg, pa brifysgolion yw’r rhai mwyaf poblogaidd ac uchel eu parch o ran darparu myfyrwyr o safon uchel i’w recriwtio.
Yn ôl yr arolwg, mae recriwtiaid yn y DU yn chwilio am sgiliau, profiad proffesiynol ac arbenigaeth mewn pwnc gradd sydd yn berthnasol i’w sectorau penodol. Dewisir myfyrwyr hefyd ar sail enw da’r brifysgol y maent wedi graddio ohoni. Roedd cyflogwyr Prydeinig hefyd yn rhoi mwy o bwyslais na chyflogwyr Ewropeaidd ar safon graddau ac roeddent hefyd yn fwy tebygol o recriwtio graddedigion o brifysgolion yr oedd ganddynt eisoes gysylltiad â hwy.
“Mae hon yn wybodaeth o bwys ac i’w chroesawu gan ein myfyrwyr a darpar raddedigion,” meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol.
“Rydym yn rhoi pwyslais sylweddol ar gyflogadwyedd ein myfyrwyr. Rydym yn darparu cyfleoedd ac anogaeth iddynt ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad ar gyfer eu darpar yrfaoedd. Ynghyd â safonau rhagorol addysgu a boddhad myfyrwyr yn y brifysgol, mae gwybod hefyd bod y brifysgol yn uchel ei pharch ymysg prif gyflogwyr sy’n recriwtio graddedigion yn newyddion arbennig o dda.”
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015