Grant o Bwys gan AHRC wedi’i ddyfarnu i PRoMS – ‘Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth / The Production and Reading of Music Sources, 1480-1530’
Bydd llawysgrifau cerddoriaeth ac argraffiadau o ‘Oes Aur’ polyffoni yn dod o dan y chwyddwydr mewn project ymchwil tair-blynedd.
Mae cyfnod y Dadeni wedi rhoi inni gyfoeth heb ei ail o ran ffynonellau cerddoriaeth. Mae llawysgrifau o Ewrop trwyddi draw wedi goroesi – gan roi detholiad eang o enghreifftiau, o gopïau mawr a thra addurnedig o nodiannau cerdd hyd at y rhai bach iawn a diaddurn.
Bydd arbenigwyr amlwg ym maes llawysgrifau o gerddoriaeth gynnar yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor a haneswyr celf Sefydliad Warburg (Prifysgol Llundain) yn dod at ei gilydd i astudio cynllun y sgorau cerdd hyn o’r cyfnod rhwng 1480 a 1530. Byddant yn gweithio gyda’r Ganolfan Cyfrifiaduro yn y Dyniaethau (CCH) yng Ngholeg y Brenin, Llundain i greu llyfrgell ddigidol ac adnodd o bwys, yn ogystal ag i drefnu cyfres o gynadleddau, gweithdai, cyngherddau a chyhoeddiadau. Mae’r grant 3-blynedd o bron i £800,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sef y grant mwyaf erioed i’w ddyfarnu gan y cyngor i broject unigol ym maes cerddoriaeth, yn tanlinellu pwysigrwydd y project hwn.
Y cyfnod hwn yw’r penllanw o ran cynhyrchu llawysgrifau cerdd, pryd y cafwyd yr amrywiaeth fwyaf ohonynt, yn drawiadol eu golwg, ac yn aml yn dangos llawer o geinder artistig, gan gyfuno nodiant cerddorol â’r gair ysgrifenedig, ac weithiau â darluniau coeth – cymhlethdod gweledol a oedd yn brin mewn unrhyw fath arall o ffynhonnell. Roedd y modd y câi hyn ei osod – yn wahanol i nodiant sgorau’r oes sydd ohoni – yn amrywio ar draws Ewrop, amrywiaeth nad yw erioed wedi’i hastudio’n drefnus.
Fel y mae arweinydd y project, yr Athro Thomas Schmidt-Beste o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn egluro:
“Yn y gorffennol, mae’r darnau hyn o gerddoriaeth wedi’u trosi i nodiant modern, fel y gall perfformwyr eu darllen, gan ddefnyddio arddulliau cyfoes o ran canu a pherfformio. Rydym yn colli agweddau pwysig ar y modd y câi’r gerddoriaeth hon ei throsglwyddo a’i pherfformio – agweddau a geir o fewn nodiant ac union gynllun y llawysgrifau – sef ein hunig ffenestr i gerddoriaeth y cyfnod hwnnw.”
“Y gwahaniaeth mwyaf amlwg i’r llygad yn yr oes sydd ohoni yw bod y rhannau lleisiol wedi’u hysgrifennu ar wahân – nid o fewn y sgôr, a’r rhannau wedi’u trefnu’n daclus un o dan y llall. Mae rhai llawysgrifau’n cynnwys cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar y dudalen – weithiau mewn du, coch, neu hyd yn oed las. Ni wyddom i sicrwydd yr union effaith a gawsai’r cynllun a’r dyfeisiadau hyn ar y perfformiad. Mae maint yn fater arall: Roedd rhai llawysgrifau’n fawr iawn, i’w darllen gan lawer o gantorion ar yr un pryd, a rhai’n fach iawn. Byddai hynny ynddo’i hun yn dylanwadu ar y modd y byddid wedi canu’r darn, a’r modd y byddai’r gynulleidfa wedi’i chlywed.”
“Ceisir dod â’r elfennau hyn i’r amlwg a dod â’r gerddoriaeth yn fyw trwy weithio gyda’r ensemble lleisiol o fri Capella Pratensis: mae aelodau’r ensemble hwn wedi arfer â chanu o nodiant cynnar, a byddant yn archwilio gyda ni y modd y mae cynllun y ffynonellau gwreiddiol yn dylanwadu ar y perfformiad gwirioneddol.”
Bydd creu adnodd digidol o’r llawysgrifau hyn – gyda sylwebaethau llawn, y gallu i gymharu a gwrthgyferbynnu gwahanol lawysgrifau yn y fan a’r lle, a blog project a fydd yn caniatáu i’r holl ymwelwyr â’r safle rannu eu hymatebion – yn galluogi’r ymchwilwyr i rannu eu canfyddiadau ac yn galluogi eraill – p’un a fyddont yn berfformwyr, yn ysgolheigion, yn rhai sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth gynnar, neu’n bobl frwdfrydig dros gerddoriaeth y Dadeni’n gyffredinol – i archwilio eu cyd-destun, yn ogystal â’r ffynonellau.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011