Gruffudd yn ennill Cadair arall
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor i’w longyfarch ar ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2014 ym Meirionnydd.
Gruffudd Antur o Lanuwchllyn, ger y Bala yw’r prifardd. Mae’n 22 ac yn fyfyriwr yn Ysgol y Gymraeg y Brifysgol, lle mae newydd cwblhau cwrs MA Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, a bydd yn dechrau ar gwrs PhD ym mis Medi.
Ennillodd Gruffudd y gadair o dan ei ffugenw ‘Gwenno’ am ei gyfansoddiad o gerdd ar y testun Pelydrau.
"Mae ennill gartref yn fraint â hanner!" dywedodd Gruffudd wrth y BBC.
Dyw'r fraint ddim yn ddieithr i Gruffudd; enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn Eryri 2012.
Mari George ac Eurig Salisbury oedd beirniaid y gystadleuaeth. Wrth rannu'r feirniadaeth dywed y beirniaid: "Cafwyd pedwar ar ddeg o ymgeiswyr eleni, ac mae pob un o'r cystadleuwyr yn dangos addewid.
"Gwnaethom ein dau fwynhau darllen y cerddi i gyd, a braf iawn oedd gweld bod pob un o'r bobl ifanc hyn wrth eu bodd yn chwarae gyda geiriau."
"O'r darlleniad cyntaf, cawsom ein gwefreiddio gan awdl Gwenno. Cân serch yw hi ac yn wahanol i bob cystadleuydd arall, mae safon cerdd Gwenno yn gyson uchel o'r dechrau i'r diwedd. Mae swyn aeddfed y gynghanedd yn serio llinellau telynegol fel hyn yn y cof:
Yr hen ddyheu yn troi'n ddall
yn dawel; minnau'n deall
fod heulwen loywa'r ennyd
yn gorfod darfod o hyd,
a rhaid i'r ha' ei droi'i hun
o hyd yn hydref wedyn."
"Gyda chlod mawr y mae Gwenno yn llawn haeddu cadair yr Eisteddfod," meddai'r beirniaid.
Mae Gruffudd wedi bod yn cystadlu ac yn ymwneud â'r Urdd ar hyd ei oes fel rhan o Adran Llanuwchllyn, Ysgol y Berwyn, Aelwyd Pantycelyn ac Aelwyd Penllyn.
Dywedodd bod ei ddyled a'i ddiolchgarwch yn aruthrol i'w deulu, ei gyfeillion, ei athrawon, ei ddarlithwyr a'i holl ffrindiau am ennyn ei ddiddordeb mewn barddoniaeth a'r 'pethe', ac am wneud y cyfan yn gymaint o hwyl ar hyd y daith - "maen nhw'n gwybod yn iawn pwy ydyn nhw, gobeithio!"
Yn ôl Yr Athro Peredur Lynch, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor:
‘Y mae Gruffudd Antur yn un o feirdd ifanc mwyaf disglair Cymru, ac y mae ei lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn brawf pellach o’i ddoniau fel bardd. Bydd yn fraint ei gael yma yn fyfyriwr PhD ym Mangor dros y tair blynedd nesaf.’
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2014