Gwahodd academydd o Fangor i banel rhyngwladol ar gael gwared ag is-gynhyrchion anifeiliaid
Efallai nad yw is-gynhyrchion anifeiliaid yn bwnc y mae llawer yn meddwl amdano, ond mae cael gwared â hwy’n ddiogel ac yn effeithiol yn hynod o bwysig o ran afiechydon, diogelwch bwyd a hyd yn oed newid hinsawdd. Crëir miliynau o dunelli o is-gynhyrchion o anifeiliaid bob blwyddyn yn sgil i diwydiant bwyd ac amaeth, ac mae’r mater yn dod yn fwyfwy pwysig ar lefel fyd-eang.
Mae Dr Prysor Williams o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth newydd ddychwelyd o symposiwm rhyngwladol yn Detroit, UDA, yn canolbwyntio ar drafod bob agwedd ar gael gwared ag is-gynhyrchion anifeiliaid. Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd ddau bapur ar y gwaith ymchwil a wneir ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Bangor ar system newydd o storio sgerbydau da byw cyn cael gwared â hwy, a elwir yn Fio-leihau. Gwahoddwyd ef hefyd i ymuno â phanel rhyngwladol, gydag aelodau o Seland Newydd, Canada, UDA a De Corea, i drafod y mater o gael gwared â sgerbydau.
Meddai Dr Williams, “Daeth y symposiwm hwn ag arweinwyr y byd ym maes ymchwil a llunwyr polisïau yn y diwydiant at ei gilydd. Cafwyd gwybodaeth hynod o ddiddorol ynglŷn â pham a sut y mae dulliau o ymdrin ag is-gynhyrchion anifeiliaid yn amrywio ar raddfa fyd-eang.
Oherwydd twf mewn poblogaeth a newidiadau mewn deiet, mae gwneud y defnydd gorau ar is-gynhyrchion anifeiliaid yn dod yn fwyfwy pwysig er mwyn lleihau’r effaith a gaiff cynhyrchu a phrosesu bwyd ar yr amgylchedd. Mae systemau gwaredu diogel yn hanfodol hefyd er mwyn atal afiechydon trychinebus, megis clwy’r traed a’r genau a BSE.
Ychwanegodd Dr Williams, “Roedd gan gynadleddwyr o bedwar ban byd ddiddordeb sylweddol mewn Bio-leihau. Maent yn awyddus i weld sut y bydd yr ymchwil ym Mangor yn datblygu, fel y gall llunwyr polisi gymeradwyo’r dechnoleg at ddefnydd diwydiannol.”
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012