Gwaith ar hanes hinsawdd y môr yn ennill medal bwysig
Dyfarnwyd Medal bwysig Lewis Penny i’r Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau’r Eigion gan y Quaternary Research Association am ei ymchwil ar hanes yr hinsawdd forol. Mae’r wobr yn cydnabod ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd yn y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf.
Mae’r datganiad sy’n argymell bod Paul yn derbyn y Fedal yn cydnabod ei fod yn ddewis eithriadol ac anarferol; eithriadol o ran ei alluoedd, ei effaith a’i swyddogaeth ganolog ym maes sglerocronoleg molwsgiaid, maes sy’n datblygu’n gyflym; anarferol oherwydd, ac yntau bellach yn 57 oed, mae ei yrfa ymchwil wedi datblygu mewn cwta naw mlynedd ar ôl i ddychwelyd i’r byd academaidd yn 2001 wedi gyrfa fel ymgynghorydd cyfrifiaduron yn Llundain. Dilynodd Paul gwrs israddedig yng ngwyddorau’r eigion yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn 2004. Dyfarnwyd iddo Efrydiaeth Cemlyn Jones i wneud ymchwil ar hanes yr hinsawdd forol ym môr Iwerddon. Cwblhaodd ei PhD yn 2009, a bellach mae’n Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, wedi ei noddi fel rhan o Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).
Mae maes ymchwil Paul (sglerocronoleg neu astudio'r cylchoedd tyfiant ar gregyn) yn cyfateb i ymchwil ar gylchoedd coed. Ar lawer o gregyn creaduriaid môr gwelir bandiau twf blynyddol amlwg y mae eu patrymau dros amser yn gyffredin i’r holl greaduriaid yn yr un ardal, sy’n dangos eu bod i gyd yn cofnodi’r un signal gan eu hamgylchedd. Golyga hyn y gellir rhoi dyddiad ar gregyn meirwon, yr un fath â choed, trwy groesgyfateb eu patrymau bandio gyda chregyn y mae eu dyddiadau’n hysbys. Felly mae’n bosib creu archif o gregyn gyda dyddiadau manwl gywir, fydd yn creu cofnodion am yr amgylchedd morol a allai fynd yn ôl gannoedd o flynyddoedd. Trwy gymharu’r patrymau bandio gyda mesuriadau offerynnol, dangoswyd sut mae twf yn y cregyn yn cyfateb i wahanol agweddau ar yr amgylchedd, megis tymheredd dŵr y môr neu’r cyflenwad bwyd. Mae hefyd yn bosib ymchwilio i’r amgylchedd morol trwy ddadansoddi geocemeg deunydd y cregyn ei hun.
Hyd yma nid yw archifau mor fanwl wedi bod ar gael i’r moroedd mwy gogleddol. Yr hyn sydd gennym yma felly yw arf newydd a fydd yn cyfrannu at astudiaeth fanwl o hanes system hinsawdd y Ddaear fel mae wedi datblygu dros yr ychydig filoedd o flynyddoedd diwethaf ac a fydd yn gwella ein gallu i fodelu newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Mae Paul wedi cymryd rhan ganolog yn y datblygiadau hyn, ac i bob pwrpas mae wedi “datgloi” archif cwbl newydd o hinsawdd gyfnewidiol y moroedd. Yn yr argymhelliad nodwyd mai cyfrinach llwyddiant Paul yw ei allu i “ddarllen” cyfresi cregyn, i ddatgodio’r cofnodion hyn, ac i’w dadansoddi gyda chymorth dulliau ystadegol uwch sydd wedi deillio o ymchwil ar gylchoedd coed.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2011