Gwaith gan gemegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam tuag at ddatblygu technoleg i achub bywydau
Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu canlyniadau project ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â diagnosis cyflym a hawdd o'r diciâu (TB) gam yn nes.
Mae'r diciâu yn un o glefydau mwyaf marwol y byd. Dim ond dwy flynedd yn ôl, heintiwyd 10.4 miliwn o bobl ledled y byd â'r diciâu a chafwyd 1.8 miliwn o farwolaethau cysylltiedig â'r diciâu. Yn 2015, roedd 35% o'r marwolaethau o ganlyniad i HIV oherwydd cyd-heintiad â'r diciâu.
Mae cemegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i ddatblygu citiau diagnosis cyflym a hawdd a all roi canlyniad ar unwaith (ar hyn o bryd anfonir samplau o waed i labordy, sy'n broses lawer rhy hir).
Maent wedi bod yn creu set o foleciwlau unigryw a ddefnyddir i roi ‘olion bysedd’ o bresenoldeb y diciâu mewn sampl o waed. Mae'r papur yn amlinellu dull newydd o roi diagnosis cyflym o TB, datblygiad gwyddonol a allai achub bywydau.
Dywedodd Dr Juma’a Al-Dulayymi, sy'n arwain y gwaith cemeg synthetig: “Mae'r canlyniadau hyn yn awgrymu bod cyfle gwirioneddol i'n gwaith cemeg craidd gyfrannu at allu canfod y diciâu yn gyflym. Mae gweld y potensial o achub bywydau yn gwneud i ni deimlo bod yr holl waith a wnaethom yn creu'r moleciwlau wedi bod yn werth chweil."
Dywedodd Dr Chris Gwenin sy'n arwain y project diagnostig: "Mae'r project hwn yn ddechreuad rhagorol, y cam nesaf yw rhoi'r dechneg newydd ar brawf gydag ystod ehangach o samplau; rydym yn gweithio'n galed i helpu i ddod â phrawf TB newydd a dibynadwy i'r farchnad."
Mae yna lawer o wyddoniaeth gymhleth tu ôl i unrhyw git prawf gan fod yn rhaid iddo fod wedi ei brofi ac yn gadarn - cymerodd flynyddoedd cyn i gitiau prawf beichiogrwydd ddod yn rhywbeth y gellid eu defnyddio gartref.
Er mwyn datblygu technoleg ddiagnostig y diciâu i bwynt lle y gellir ei ddilysu i'w ddefnyddio yn y maes, mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu "cwmni deillio", Diagnostig. Dywedodd yr Athro Mark Baird, sy'n gyfarwyddwr y cwmni: “Mae gan y dull newydd hwn a'r dechnoleg botensial cyffrous ar gyfer iechyd dynol ac iechyd anifeiliaid.”
Meddai'r Diprwy Is Ganghellor dros Ymchwil, yr Athro Jo Rycroft Malone: "Mae'r gwaith hwn yn enghraifft o wyddoniaeth gyda'r gorau yn y byd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r hyn a gyflawnwyd gan Diagnostig yn amlygu ein huchelgais i greu mwy o gwmnïau deillio mewn partneriaeth â M-SParc, y parc gwyddoniaeth newydd ar Ynys Môn. Mae cyfuno gwyddoniaeth ac arloesi fel hyn yn cyfrannu at dwf economaidd Gogledd Cymru.
Manylion y papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol PLOS:
“New synthetic lipid antigens for rapid serological diagnosis of tuberculosis”
https://doi.org/10.1371/journal.pone.0181414
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017