Gwaith Maes Datblygu Cymunedol
Bydd criw rhaglen rhan amser Meistr mewn Datblygu Cymunedol yn ymweld â de a gorllewin Cymru wythnos nesaf fel rhan o'i modiwlau achrededig trwy Waith Maes. Yn rhan o'u rhaglen dwy flynedd, byddant yn archwilio cymysgedd cyffrous o ymarfer datblygu cymunedol ar draws y rhanbarth. Mae'r rhaglen yn cynnwys ymweliad astudiaeth Ewropeaidd yn ogystal ag ymweliadau lleol yng Ngwynedd a Chonwy.
Mae'r tîm yn recriwtio ar gyfer y rhaglen bydd yn cychwyn ar ddiwedd mis Medi. Cysylltwch gyda'r Ysgol Dysgu Gydol Oes am fanylion pellach.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2016