Gwaith myfyriwr Bangor i ymddangos yng Ngwyl BEAM
Mae gŵyl sy’n hyrwyddo technoleg greadigol o fewn Cerddoriaeth yn cynnwys arddangosfa o waith cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor.
Mae Ed Wright, 30, sydd newydd gwblhau PhD yn yr Ysgol Cerddoriaeth wedi creu gosodiad o’r enw Hopscotch fydd yn cael ei arddangos yng ngwyl BEAM (Brunel Electronic and Analogue Music) rhwng 24 - 26 Mehefin 2011.
Astudiodd Ed, sydd yn wreiddiol o Buckinghamshire, ac sydd erbyn hyn yn byw ym Mhenmaenmawr, BA, MA ac yna PhD mewn cyfansoddiad electroacwstig ac offerynnol ym Mangor.
Dyfeisiodd Hopscotch am ei fod eisiau datblygu’r syniad o chwarae cerddoriaeth electroacwstig yn fyrfyfyr mewn ffordd syml, gan roi’r cyfrifoldeb am y perfformiad i’r gwrandäwr a gan sicrhau fod pob perfformiad yn unigryw.
Meddai Ed, “Mae Hopscotch yn seiliedig ar y syniad o symud er mwyn creu sain. Mae’n defnyddio gwe gamera i ddilyn symudiadau. Mae’r llawr wedi ei rannu’n sawl parth a pan mae rhywbeth yn symud o fewn y parth mae’n sbarduno’r sain.
“Mae yna 14 parth ac felly 14 sŵn gwahanol. Y dechnoleg tu ôl y gwaith ydy’r rhaglennu cyfrifiadurol a’r sain rwyf wedi dod a’i gilydd ac mae’r cyhoedd yn rhydd i gerdded, dawnsio neu gropian drwyddo!
“Beth sy’n gwneud yr arddangosfa’n ddiddorol ydy’r ffyrdd gwahanol y mae pobl yn ei ddefnyddio. Dyma pryd mae’n dod i’r amlwg fod rhai synau’n gweithio’n dda ag eraill a bod rhai parthau’n fwy tebygol o gael eu sbarduno’n gydamserol nag eraill.
“Mae rhai pobl yn feddylgar ac yn ofalus ac yn ceisio gwrando ar un sŵn ar y tro lle mae rhai eraill yn rhedeg mewn cylchoedd er mwyn creu gymaint o sŵn a phosib. Y gamp ydy adeiladu hyn i mewn i’r gwaith fel bod y ddau opsiwn yn bosib.”
Mae Ed yn un o ddim ond tri i dderbyn bwrsariaeth i arddangos ei waith yn yr ŵyl. Meddai, “Mae’n anrhydedd ei dderbyn, yn enwedig o ystyried y bobl eraill sy’n rhan o’r ŵyl. Rwy’n teimlo’n hynod o falch… ac ychydig yn ofnus!”
Mae Ed yn sicr fod ei gyfnod ym Mangor wedi helpu a’i waith. Ychwanegodd, “Y peth gorau am y cwrs PhD oedd cael yr amser a’r lle i arbrofi a datblygu syniadau ar raddfa fawr. Mae hyn yn rhywbeth sy’n anodd ei wneud os ydy rhywun yn gweithio yn y sector fasnachol neu yn dilyn rhywbeth fel hobi.
“Fyswn i ddim wedi gallu cyflawni llawer o fy ngwaith petawn i ddim wedi astudio’r cwrs ym Mangor, ac wedi ei orffen mae’n dda gweld fod cymaint o bethau diddorol tebyg i wneud yn y ‘byd go iawn.’”
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.beamfestival.com neu i wefan Ed Wright: www.virtual440.com
Gwyliwch Hopscotch yn cael ei chwarae - http://youtu.be/aZsW3D-4O3E
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2011