Gwaith myfyriwr i gyfrannu at herio sepsis
Mae cyfraddau sepsis ar gynnydd. Gall y cymhlethdod prin ond difrifol hwn, a all ddigwydd o ganlyniad i haint, fygwth bywydau.
Gobaith un myfyriwr cemeg yw y bydd ei gwaith ymchwil yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn yr haint hon.
Mae Alice Heeroma o Felixstowe, yn astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Cemeg gyda Dr Gwenin a Dr Jones ym Mhrifysgol Bangor. Mae Alice sy'n 23 oed yn gyn-ddisgybl o'r Felixstowe Academy. Mae Alice yn ei blwyddyn gyntaf o'i hymchwil a ddylai gyfrannu at greu prawf cyflym ar gyfer sepsis.
Sepsis yw pan fo'r corff yn gorymateb i haint, ac mae'r corff yn ymosod ar ei organau neu ei feinwe ei hun. Gall sepsis ddigwydd yn gyflym iawn, ond mae profion presennol yn cymryd rhwng 2 i 5 diwrnod cyn y gellir ei adnabod yn iawn, ac erbyn hynny gall y claf fod yn ddifrifol wael. Gall sepsis arwain at nifer o organau yn methu, sioc septig a niwed i organau yn ogystal â marwolaeth.
Dywed Alice fod y ddau broject ymarferol, oedd yn ddefnyddiol a gwerthfawr iawn, wedi rhoi profiad technegol ac ymarferol gwerthfawr iddi ar gyfer ei phroject ymchwil. Creodd Alice microstrwythurau organig y gellir eu defnyddio i ddarparu cyffuriau yn ogystal â'u defnyddio mewn ystod o ddiwydiannau, yn y projectau a wnaeth yn ystod ei chwrs israddedig. Cyfrannodd hefyd at waith i ddatblygu peptoidau i'w defnyddio i atal genedigaethau cynamserol.
Meddai:
"Mae'r projectau ymarferol a wnaed gennym ym Mhrifysgol Bangor wedi fy rhoi mewn sefyllfa dda i ddechrau ar fy ymchwil PhD ar unwaith. Pe bawn i wedi gwneud gradd israddedig nad oedd yn cynnig project ymarferol, byddwn yn awr yn treulio amser yn dysgu technegau labordy ar ddechrau fy PhD ymchwil. Mae'r sgiliau hyn rwyf wedi eu dysgu hefyd yn sgiliau trosglwyddadwy ac mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt os ydych eisiau gyrfa mewn labordy."
"Rwy'n gobeithio y bydd fy ngwaith yn gwneud gwahaniaeth, trwy gyfrannu at ddatblygu offer llaw i adnabod sepsis yn gyflym," ychwanegodd.
Noddir PhD Alice gan CALIN, sef y Rhwydwaith Arloesi Gwyddorau Bywyd Celtaidd ar gyfer busnesau yng Nghymru ac Iwerddon, a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae University College Cork hefyd yn gweithio ar y project gyda'r cwmni o ogledd Cymru, SOPHIMARK. Datblygodd y project o waith blaenorol rhwng Prifysgol Bangor a’r cwmni.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2018