Gwaith ymchwil o'r Brifysgol yn cael ei arddangos mewn digwyddiad i ddathlu'r gwyddorau cymdeithasol mewn cymdeithas
Mae esiamlpau o waith ymchwil o Brifysgol Bangor yn cael eu hamlygu mewn cyhoeddiad newydd sy’n dathlu ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddir 'Dadlau o Blaid y Gwyddorau Cymdeithasol Rhif 10: Cymru' gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys 14 o astudiaethau achos o ymchwil a wnaed gan sefydliadau yng Nghymru sydd wedi dylanwadu ar lywodraethau gwladol a rhyngwladol, yn ogystal â thynnu sylw at fanteision gwaith ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol ar gyfer polisi cyhoeddus.
Mae effaith gwaith ymchwil o Gymru wedi bod yn bellgyrhaeddol. Mae rhaglen Food Dudes, a ddatblygwyd yn yr Ysgol Seicoleg, wedi cael ei chyflwyno'n llwyddiannus mewn nifer o lefydd ym Mhrydain, ac wedi cynyddu faint o lysiau a ffrwythau mae plant yn hapus i'w bwyta a disodli bwydydd eraill, sy'n llai iach, o ddeiet y plant a'u rhieni.
Mae’r pynciau ymchwil eraill o Brifysgol Bangor sy’n cael sylw yn cynnwys gwaith yr Athro Bob Woods ar wella ansawdd bywyd a gwybyddiaeth pobol sydd efo dementia ysgafn i ganolig a gwaith yr Athro Phil Molyneux o Ysgol Busnes Bangor yn edrych ar gwestiynau polisi cyhoeddus os yw banciau’n gweithredu yn gystadleuol neu fel monopoliwyr?
Mae'r pynciau ymchwil eraill yn cynnwys: mynd i'r afael â masnachu mewn pobl; dulliau newydd o ymladd yn y 'rhyfel yn erbyn cyffuriau'; ac amddiffyn hawliau dynol pobl ifanc yng Nghymru.
Yng Nghymru, sy'n gartref i ddim ond naw o 109 o Sefydliadau Addysg Uwch gwledydd Prydain, mae'r prifysgolion wedi arloesi mewn cynnal gwaith ymchwil blaenllaw yn y gwyddorau cymdeithasol ar raddfa fyd-eang ar ystod eang o bynciau, o iechyd y cyhoedd, i farchnadoedd ariannol rhyngwladol ac ansawdd bywyd yn y gweithle.
Lansiwud y llyfryn yn ddiweddar gan Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gynulleidfa o wneuthurwyr polisi, gweision sifil, Aelodau Cynulliad a gwyddonwyr cymdeithasol.
Y llyfryn hwn yw'r degfed yn y gyfres Dadlau o Blaid y Gwyddorau Cymdeithasol, sy'n llyfryn ar y cyd rhwng Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), a Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol (RIASS). Mae'r llyfrynnau hyn yn cael eu cyhoeddi gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol i ddangos grym ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol i wella bywydau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015