Gwaith yn dechrau ar gae 3G bob-tywydd
Mae’r gwaith wedi dechrau ar greu cae 3G bob-tywydd newydd ar safle Prifysgol Bangor yn Nhreborth.
Bydd y cae yn darparu cyfleusterau rygbi a phêl-droed drwy gydol y flwyddyn i dimau myfyrwyr yn ogystal â bod ar gael i'w llogi gan y gymuned leol.
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor:
“Rydym eisoes wedi cael nifer fawr o ymholiadau ynglŷn â'r cyfleuster, ac rydym wedi cymryd nifer sylweddol o archebion ar gyfer y tymor nesaf gan glybiau pêl-droed a rygbi lleol. Wrth ystyried hefyd nifer y clybiau myfyrwyr a fydd yn hyfforddi yno, mae eisoes yn edrych yn brysur bob gyda’r nos yn ystod yr wythnos.”
Mae Clwb Rygbi Bangor a chlwb pêl-droed tref Caernarfon eisoes wedi ymrwymo i ddefnyddio'r cyfleuster.
Dywedodd Joe Simpson, Swyddog Hwb Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghlwb Rygbi Bangor ac sy’n hyfforddwr ar dîm Prifysgol Bangor:
“Mae'r ardal hon wedi bod mewn angen mawr am faes pob tywydd am amser hir. Bydd yn gyfle gwych i'r timau rygbi myfyrwyr a bydd yn darparu profiad gwych i'r bobl hynny a allai fod yn rhoi cynnig ar rygbi am y tro cyntaf yn y Brifysgol.”
Dywedodd Ruth Plant, Llywydd Undeb y Myfyrwyr:
“Bydd hyn yn ychwanegiad gwych i'r cyfleusterau chwaraeon yn y Brifysgol. Bydd yn darparu cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i'n myfyrwyr ragori yn eu gweithgareddau gyda chymaint o fyfyrwyr yn gallu elwa ohono. Rydym hefyd yn credu ei bod yn wych y bydd timau a grwpiau o'r ardal leol hefyd yn gallu ei defnyddio.”
Dyfarnwyd y cyllid ar gyfer y cae yn seiliedig ar fodel ad-dalu 10 mlynedd, gan ystyried strwythur prisio cystadleuol yn seiliedig ar brisio cyfleusterau cyfagos eraill, yn ogystal â chyfraniad gan Undeb Rygbi Cymru tuag at lifoleuadau LED.
Bwriedir i'r cyfleuster newydd agor yn yr haf a gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn llogi'r cae gysylltu â Judith Williams ar 01248 382571 neu e-bostio sportsbookings@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2019