Gwaith yn parhau ar Barc Gwyddoniaeth Menai
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn cymryd cam arall ymlaen yr wythnos hon wrth i waith archeoleg gychwyn ar y safle. Bydd y gwaith archaeoleg yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio sydd i’w gyflwyno yn yr hydref. Mae’r cynllun, a fydd yn creu darpariaeth wyddonol o safon uchel ar gyfer busnesau a mentrau ymchwil yn gweithio at agor y drysau yn 2017.
Mae’r cynlluniau’n datblygu’n bositif ar hyn o bryd gyda nifer o gwmnïau a mentrau yn datgan diddordeb mewn sefydlu ar y Parc gyda’r nod o gefnogi a chreu swyddi o safon uchel a chyflogau da yn yr ardal.
Bydd Parc Gwyddoniaeth Menai yn gartref ar gyfer busnesau a sefydliadau arloesol sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a sy'n awyddus i ffynnu mewn amrywiaeth o sectorau. Bydd y Parc yn elwa o fuddsoddiadau mewn sectorau megis ynni, gwasanaethau amgylcheddol a thechnoleg lân, ond fe groesawir prosiectau mewn sectorau eraill hefyd.
Bydd rhaglenni allgymorth yn cael ei rhedeg i annog plant a phobl ifanc i bynciau gwyddonol a dangos argaeledd swyddi gwyddonol yn y rhanbarth.
"Mae’n braf iawn gweld y gwaith yn cychwyn ar y cynllun" meddai Ieuan Wyn Jones, cyfarwyddwr y Project, "bydd y gwaith archaeoleg yn ffurfio rhan o’r cais cynllunio a fydd yn gam sylweddol ymlaen i ni.”
Mae'r tîm project yn awyddus i rannu gwybodaeth am y syniad ac i gasglu sylwadau gan y gymuned a byddant yn mynychu Sioe Môn ym mis Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014