Gwasanaethau Arlwyo ac Undeb y Myfyrwyr yn cydweithio er budd cynaladwyedd
Mae'r Lug a Mug newydd yn eich helpu i arbed yr amgylchedd, gan arbed arian hefyd.
Yn ôl Tip Top Jobs, bydd y mwyafrif o bobl yn yfed 4 neu fwy o baneidiau o de neu goffi bob dydd. Mae hyn yn golygu y gallai unigolyn ddefnyddio hyd at 100 o gwpanau papur bob wythnos, a’r rhan fwyaf ohonynt heb gael eu hailgylchu ac, o bosibl, yn costio ffortiwn fach. Gyda’r peiriannau coffi gwych Eros o gwmpas campws Prifysgol Bangor, mae’r nifer hon yn debygol o fod yn uwch fyth yma, ond ceir bellach ffordd o helpu i arbed yr amgylchedd a'ch helpu chi i arbed arian hefyd.
Yn cyflwyno’r Lug a Mug.
Mae’r mygiau thermol buddiol hyn ar gael i bawb sy’n gaeth i gaffein o gwmpas y Brifysgol, am £5 yn unig; ar ben hynny, nid yn unig y mwg a gewch am eich £5, ond HEFYD tocyn ar gyfer 5 paned o de/ coffi – pumpunt am fwg a phum diod? Mae’n swnio fel bargen go-iawn!
Bydd defnyddio’r Lug a Mug hefyd yn arbed 10% ar eich diodydd poeth, i annog y mygiau sy’n garedig i’r amgylchedd a bod o fudd i bawb sy’n eu defnyddio.
Nid yn unig y mae’r cynllun ffynclyd i’w weld yn wych, ond mae’r insiwleiddio thermol yn golygu y bydd eich diod yn parhau’n boeth heb y gollyngiadau a geir o gwpanau papur, fel ei fod yn berffaith ar gyfer darlithoedd a’r swyddfa.
Gellwch brynu eich un chi o Serendipedd (ffair y myfyrwyr newydd ym Maes Glas) ar 21 a 22 Medi, neu wedyn o Far Uno, Caffi’r Teras neu Bod Coffi Prif Adeilad y Celfyddydau.
Mae Rich Gorman, Is-Lywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, yn wirioneddol gynhyrfus ynglŷn â menter werdd wych arall ym Mangor.
“Mae’r Lug a Mugs yn ffordd wych o leihau gwastraff di-angen o’r cwpanau papur y gellwch eu taflu. Gallwn wneud ein rhan ar gyfer y blaned, arbed rhywfaint o arian, a mynd â’n diodydd i ddarlithoedd mewn modd ffasiynol.”
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2011