Gwefan Bangor ymysg y gorau ym Mhrydain.
Mae darpar fyfyrwyr yn ystyried gwefan Prifysgol Bangor yn un o'r safleoedd gorau gan brifysgolion ym Mhrydain.
Mewn adroddiad yn y Times Higher Education (Dydd Iau, 19 Awst) gosodir gwefan Bangor ymysg y safleoedd mwyaf effeithiol, o ran rhoi'r wybodaeth angenrheidiol y mae ar ddarpar fyfyrwyr ei hangen wrth iddynt benderfynu ymhle i astudio.
Gofynnodd arolwg y Times Higher ar effeithiolrwydd gwefannau prifysgol i sampl o fyfyrwyr chweched dosbarth o wahanol golegau ystyried amrywiaeth o wefannau prifysgol ar sail nifer o feini prawf. Sgoriodd safle Bangor y marciau uchaf yn y rhan fwyaf o gategorïau, gan osod gwefan Prifysgol Bangor ymysg y safleoedd sy'n perfformio orau ym Mhrydain.
Ymysg y meysydd lle cafodd gwefan Bangor farciau uchaf roedd hwylustod defnyddio, rhwyddineb cael hyd i fanylion cyswllt a gwybodaeth bellach, a rhoi safbwynt myfyrwyr ar astudio ym Mangor, drwy wneud defnydd effeithiol o broffiliau a chyfweliadau gyda myfyrwyr presennol. Sgoriodd safle Bangor yn uchel hefyd am roi golwg i ddarpar fyfyrwyr ar fywyd ar y campws, yn arbennig trwy ddefnyddio fideos a chyfweliadau ar Bangor TV.
"Mae'n wefan sydd wedi'i chynllunio'n dda ac yn llawn dychymyg" oedd un o'r sylwadau a wnaed am safle Bangor, gyda'r dudalen gartref a'r sianel Bangor TV hefyd yn cael sylwadau canmoliaethus.
Cydlynir y wefan gan Dîm Gwe'r Brifysgol, sy'n cynnwys staff o'r Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Cyfathrebu Corfforaethol a Marchnata. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys y sianel fideo, Bangor TV, yn ogystal â phresenoldeb y Brifysgol ar safleoedd rhwydweithio fel Facebook, Twitter ac You Tube.
Meddai Alan Parry, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata ym Mangor:
"Ein nod yw sicrhau bod gwefan Bangor yn ddeniadol, yn llawn gwybodaeth ac yn hawdd ei defnyddio. Mae cynllun y safle yn cael ei uwchraddio'n gyson er mwyn sicrhau fod 'y golwg a'r teimlad' yn ddeniadol i ddefnyddwyr.
"Mae tîm y we yn darparu cynnwys a deunydd arloesol sy'n sicrhau bod y safle'n ddiddorol a llawn gwybodaeth i ymwelwyr ac mae datblygiadau technolegol newydd yn cael eu cyflwyno'n gyson. Rydym yn gweithio hefyd efo myfyrwyr presennol er mwyn rhoi gwir flas o Fangor i ddarpar fyfyrwyr drwy'r safle i gyd, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus dros ben. Rydym yn hynod falch bod gan ddefnyddwyr gymaint o feddwl o'r safle."
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2010