Gwefan Newydd
Mae Prifysgol Bangor wedi gweddnewid ei gwefan.
Cynlluniwyd y wefan, sy'n edrych yn ffres ac yn fodern, i'w defnyddio ar ffonau clyfar, tabledi a chyfrifiaduron ac mae'n cynnig profiad cyffrous a rhyngweithiol i bawb sy'n ymweld â'r safle.
Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
"Yn aml iawn, ein gwefan yw'r man cychwyn i bobl sydd â diddordeb mewn Prifysgol Bangor. Yn wir, bu bron i hanner ein myfyrwyr rhyngwladol nodi mai’r wefan oedd y prif ddylanwad arnynt wrth benderfynu dod i’r brifysgol hon. Mae’r safle newydd yn ddeniadol ac yn lliwgar ac yn gweithio’n wych ar ffonau symudol a thabledi. Rwy'n hapus iawn â'r wefan newydd ac rwy'n gwybod y bydd yn cael argraff dda ar bawb fydd yn ymweld â hi."
Mae'r wefan yn cynnwys dros 60,000 o dudalennau ac mae cynllunio a pharatoi'r wefan newydd wedi bod yn dipyn o dasg. Roedd y project hefyd yn cynnwys creu rhan newydd o’r wefan i'r myfyrwyr sy'n astudio ym Mangor ar hyn o bryd. Lansiwyd y rhan honno o'r wefan, sef 'FyMangor', ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ac mae'n adnodd gwych i'n holl fyfyrwyr.
Crëwyd y wefan gan gwmni dylunio o'r enw Roundhouse ac mae'n cynnwys tudalennau mewn amryw o ieithoedd yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg. Dyma gyfeiriad y wefan: www.bangor.ac.uk/itservices/wireless
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ionawr 2014