Gwefan newydd yn agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newydd i agor y drws i lenyddiaeth Gymraeg i bobl ifanc yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Mae'r wefan Sôn am Lyfra a grëwyd gan Morgan Dafydd yn cynnig adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant er mwyn meithrin brwdfrydedd ynddynt am ddarllen yn Gymraeg.
Dywedodd y cyn-athro ysgol gynradd fod plant sy'n astudio Cymraeg fel ail iaith yn aml yn ei chael yn anodd deall llenyddiaeth Gymraeg a bod hyn yn effeithio ar eu hyder a'u mwynhad wrth ddarllen.
Nod y wefan yw ei wneud yn haws i rieni a phobl ifanc ddod o hyd i'r llyfr delfrydol.
Mae'r fenter newydd wedi cael ei lansio yng nghanol y cyfyngiadau symud oherwydd y Coronafeirws pan mae rhieni yn ei chael yn anodd difyrru eu plant a'u dysgu o gartref.
Mae'n cynnwys cyfoeth o adnoddau gan gynnwys adolygiadau defnyddiol, flogiau gan westeion ac offer addysgol ac mae'n cyflwyno plant i amrywiaeth o awduron cyffrous.
Mae Morgan yn 29 oed ac yn byw yng Nghyffordd Llandudno, yn Gymro Cymraeg ac yn astudio am ddoethuriaeth ar hyn o bryd yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor.
Bydd y project ymchwil tair blynedd hwn, a ariennir trwy ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gydag arian cyfatebol gan Brifysgol Bangor, yn archwilio i ba raddau y mae gwahanol fathau o lyfrau dwyieithog yn cyfrannu at fwynhad, dealltwriaeth a pharodrwydd plant i ddarllen yn Gymraeg yn ogystal â gwella eu geirfa.
Mae Morgan, a arferai ddysgu yn Ysgol Dolgarrog yn Nyffryn Conwy cyn iddi gau, wedi creu'r adnodd am ddim i gefnogi nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Mae’r cyfan yn deillio o fy nghefndir fel athro,” esboniodd.
“Mae yna lawer o blant a rhieni sydd ddim yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg o gwbl. Gall fod yn faes dryslyd iddynt.
“Roedd y plant roeddwn i'n eu dysgu yn dod o gefndiroedd di-Gymraeg ac yn ei chael yn anodd darllen yn Gymraeg. Yn y dosbarth unwaith, gofynnais i unrhyw un oedd wedi bod yn y siop lyfrau Gymraeg i lawr y ffordd i godi eu dwylo, a doedd neb ohonyn nhw wedi bod erioed.
“Mi wnes i ychydig bach o waith yn y dosbarth heb feddwl am y peth go iawn, gan newid rhywfaint ar yr adnoddau dysgu, a hynny sydd wedi dod yn sail i fy noethuriaeth.
“Roeddwn i'n meddwl y byddai'r wefan yn syniad da i gefnogi plant a'u rhieni yn benodol wrth ddewis pa lyfrau i'w prynu. Mae'n fwy na datblygu dealltwriaeth, mae'n ymwneud â'u hannog i gael mwy o fwynhad o lyfrau Cymraeg a'u hannog i ddarllen er mwyn pleser.
“Gwefan 'llyfrau da' ydy hi yn y bôn, sy'n cynnig adolygiadau o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.”
Magwyd Morgan yng Nghonwy, a mynychodd Ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno ac Ysgol y Creuddyn yn ddiweddarach. Ar ôl yr ysgol, cwblhaodd radd mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i wneud cwrs dysgu TAR yno. Yna astudiodd am radd meistr mewn Ymarfer Addysgol wrth weithio fel athro fel rhan o raglen a gefnogwyd gan y llywodraeth.
Tra roedd yn dal i ddysgu, bu Morgan yn gweithio gyda'r Athro Enlli Môn Thomas o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Bangor i lunio cynnig PhD am grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ysbrydolwyd y pwnc gan adroddiad dylanwadol a gomisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru yn 2017 ac a ysgrifennwyd gan Dr Siwan Rosser, o Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a oedd yn edrych ar ddiwydiant llyfrau Cymru yn ei gyfanrwydd. Roedd yn nodi nifer o argymhellion gan gynnwys yr angen i ymchwilio ymhellach i natur a phwrpas llyfrau dwyieithog.
“Rwy’n meddwl bod hyn yn hynod o bwysig,” meddai Morgan, sy’n gwirfoddoli fel criwmon i’r RNLI yng Nghonwy.
“Mae darllen yn chwarae rhan fawr ym mhopeth. Fel arfer rydych yn gallu dweud pa blant sy'n darllen a pha blant sydd ddim yn darllen.
“Mae yna bwysau mawr ar ysgolion i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ac eto rydyn ni'n gwybod bod siaradwyr ail iaith yn aml yn anfodlon defnyddio'r Gymraeg am amryw o resymau, ac mae hynny'n cyfyngu ar brofiadau plant o ddefnyddio'r Gymraeg wrth sgwrsio â phobl eraill.
“Yn wahanol i siarad, mae darllen yn weithgaredd unigol nad oes rhaid cael partner sgwrsio i'w wneud, tra’n parhau i gynnig geirfa ac ymadroddion newydd i’r dysgwr eu hystyried.
“Ond ar hyn o bryd, mae llenyddiaeth Gymraeg yn rhywbeth mae llawer o blant a phobl ifanc yn ei gysylltu â'r ysgol yn unig ac ni fydden nhw o reidrwydd yn prynu llyfrau a'u darllen yn eu hamser eu hunain. Rydyn ni eisiau iddyn nhw fwynhau llenyddiaeth Gymraeg.
“Pan oeddwn i'n dysgu, roeddwn i'n cyfnewid rhai geiriau Cymraeg anodd gyda geiriau Saesneg er mwyn cael rhyw fath o lyfr dwyieithog cymysg yn y gobaith bod hynny'n ei wneud yn haws i'w ddeall. Mae yna eiriau Cymraeg anodd iawn nad ydyn ni'n eu defnyddio'n aml iawn mewn llyfrau Cymraeg.
“Fy nod yw helpu plant i ddeall y llyfr fel eu bod yn mwynhau beth maen nhw'n ei ddarllen ac yn ei ddarllen er mwyn pleser.”
Adeiladodd Morgan y wefan gyda chymorth ei bartner, Llio Mai Hughes, swyddog Cymraeg gyda Chyngor Gwynedd, ond heb unrhyw arian allanol.
Mae eisoes wedi cynnwys 100 o adolygiadau ar y wefan gan gynnwys awgrymiadau defnyddiol fel cynnwys a lefel anhawster i helpu plant roi cynnig arni ac roedd y cyfyngiadau symud yn gyfle perffaith i lansio'r wefan. Mae'n gobeithio parhau i wella'r gwasanaeth trwy roddion.
“Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn gefnogol iawn ac rydyn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am eu cymorth.
“Ar hyn o bryd rydyn ni'n chwilio am gyllid ar gyfer y wefan, mae’r cyfan yn cael ei wneud yn wirfoddol ar hyn o bryd,” meddai.
“Yn ddelfrydol, rydw i eisiau i blant a phobl ifanc eu hunain gyfrannu at y wefan. Byddai'n llawer gwell gan blant ddarllen cynnwys gan eu cyfoedion er bod rhieni'n gwerthfawrogi fy adolygiadau. Mae hyn yn rhywbeth rydw i eisiau ei ddatblygu ymhellach.
“Dim ond megis dechrau ydyn ni ac mae'r neges yn dal i gael ei lledaenu. Mae hwn yn amser pan mae pobl yn gorfod aros adref ac nid oes llawer o ddim byd arall i'w wneud felly mae'n amser da i geisio cael plant i ddarllen llyfr, yn enwedig os nad ydyn nhw'n darllen fel rheol.
“Rydyn ni'n rhoi sylw i'r holl lyfrau newydd yn ogystal â'r diwydiant a chyhoeddwyr, ac yn tynnu rhywfaint o sylw at y clasuron hŷn hefyd.
“Fy mwriad yw cynyddu nifer yr adolygiadau o lyfrau ar y wefan er mwyn iddo fod y casgliad mwyaf o adolygiadau llyfrau Cymraeg dwyieithog ar y we - mae'n bosib bod hyn yn wir yn barod. Buaswn yn hoffi i'r wefan fod 'y lle' i gael gwybodaeth am lyfrau Cymraeg i blant."
Mae'r wefan ar gael yn:https://www.sonamlyfra.cymru/
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2020