Gweinidog i Ddarlithio ym Mangor
Bydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog newydd dros Wasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Iau 2 Hydref.
Bydd y Gweinidog yn trafod 'Ministering to Education: A Reformer Reports’ mewn darlith gyhoeddus a fydd yn sicr o sbarduno trafodaeth ar addysg, gan gynnig y stori o’r tu mewn ar nifer o benderfyniadau a diwygiadau allweddol a wnaed yn ystod ei gyfnod yn Weinidog Addysg (2009-2013).
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Ddarlithfa’ Celfyddydau am 6.30. Mae'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Ddwywaith yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Addysg (2009-2013) fe enwyd Leighton Andrews AC yn Wleidydd y Flwyddyn Cymru, ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel un "anghyfrifol ac anghywir" gan Michael Gove a’r "Gweinidog Addysg gorau yn y DU" gan Alistair Campbell.
O'r methiant i weithredu ar adroddiad Richard Daugherty ar ôl diddymu TASau, i'r penderfyniad i ailraddio canlyniadau arholiadau pan ddaeth arholiadau TGAU Saesneg Iaith o dan y lach yn 2012 (gyda gwybodaeth am sylwadau Ofqual ar Gymru, na wnaed yn gyhoeddus o'r blaen), bydd y ddarlith yn ystyried yr effaith gafodd penderfyniadau o'r fath wrth osod systemau addysg Cymru a Lloegr ar lwybrau gwahanol, a chynigir sylwadau ar y sialensiau cymhleth sy'n dal o'n blaenau i wneud y system addysg yng Nghymru cystal ag unrhyw un yn y byd. Bydd cyfle i holi ar y diwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2014