Gweinidog yn clywed am addysg ac ymchwil ym maes iechyd
Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud ag ymchwil y Brifysgol ym maes iechyd, addysg nyrsys a chysylltiadau â'r GIG.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford:
"Mae ymchwil yn chwarae rhan allweddol yn y GIG yng Nghymru ac mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar y Brifysgol wedi arloesi yn y modd yr ydym yn deall ac yn trin afiechydon meddwl megis iselder difrifol.
"Roeddwn hefyd yn arbennig o falch o weld y Brifysgol yn darparu hyfforddiant addysg nyrsys ansawdd ardderchog i'r rhai sy'n dewis i fynd i mewn i'r maes, er mwyn sicrhau bod gennym y gweithwyr iechyd proffesiynol o'r ansawdd gorau sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru."
Meddai'r Athro John Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol:
“Mae gan y Brifysgol swyddogaeth hollbwysig mewn cyfrannu at addysg ac ymchwil yn y maes iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein perthynas waith agos â'r GIG yng Nghymru, a chyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arbennig, yn sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad pwysig ac ystyrlon i ddarpariaeth gofal iechyd yng ngogledd Cymru. Rydym yn croesawu'r cyfle yma i sôn wrth y Gweinidog am ein hamcanion."
Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd:
"Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r tendr i'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd i ddarparu addysg nyrsio gyn-gofrestru yng ngogledd Cymru yn arwydd clir o ansawdd ragorol yr addysg nyrsio y mae Prifysgol Bangor yn ei darparu. Yn ychwanegol at hyn mae ymchwil y Brifysgol ym maes y gwyddorau iechyd ac ymddygiad, ar draws sbectrwm eang o bynciau, yn rhoi gwybodaeth newydd allweddol a chyfrannu at wella ein dealltwriaeth a siapio'r ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu'n lleol, yn rhanbarthol a byd-eang."
Mae ychydig o leoedd ar gael o hyd ar y cwrs Nyrsio Oedolion sy’n cael ei ddarparu ar gampws y Brifysgol yn Wrecsam i ddechrau ar 7 Ebrill 2014. Cysylltwch â Mrs Peggy Murphy, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ar 01978 316351 am ragor o wybodaeth.
Bu’r Gweinidog yn cyfarfod hefyd â staff o Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar y Brifysgol. Mae ymchwil sylweddol gan y Ganolfan wedi dangos sut y gall math arbennig o therapi wybyddol, sef Therapi Wybyddol Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) haneru achosion o iselder difrifol yn dod yn ôl mewn pobl sydd wedi dioddef sawl cyfnod o iselder. Mae hyn wedi arwain y National Institute for Clinical Excellence (NICE) i argymell y dylid defnyddio MBCT yn y GIG. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos hefyd bod MBCT yn lleihau meddyliau ynghylch hunanladdiad hyd yn oed yn ystod cyfnodau o iselder a'i fod fwyaf effeithiol i drin pobl y mae eu hiselder wedi'i achosi gan drawma yn ystod eu plentyndod. Mae ymwybyddiaeth ofalgar, sy'n fath o hyfforddiant meddyliol, wedi cael ei addasu i wahanol ddibenion, o ddelio â chanser neu boen cronig, i baratoi i roi genedigaeth.
Fel hyn yr eglurodd Rebecca Crane, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
"Mae'r dull ymwybyddiaeth ofalgar o fyfyrio, yn ei wahanol ffurfiau, yn datblygu sgiliau dal sylw a rheoli emosiynau. Wrth ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar mae unigolion yn cael cyfle i gymryd saib ynghanol eu bywydau ac mae'n dysgu ffyrdd newydd o ymateb sy'n fwy tosturiol, maethlon ac adeiladol."
Bu’r tîm yn tynnu sylw at yr arbedion cost hirdymor posibl i'r GIG a chymdeithas y gellid eu gwneud drwy fanteisio ar yr arbenigedd mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar sydd i'w chael yng Nghymru a thrwy ddatblygu strategaethau cenedlaethol a lleol a fyddai'n galluogi i fwy o bobl yng Nghymru gael therapïau wedi'u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014