Gweinidog yn ymweld ag ysgolion sydd wedi cydweithio efo Prifysgol Bangor
Bu'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis AC, yn ymweld â thair ysgol gynradd sydd wedi cydweithio â Phrifysgol Brifysgol ar brojectau amrywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf heddiw (9 Hydref 2014).
Bu'n ymweld ag Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon gyntaf i agor llyfrgell gymunedol newydd yno. Mae’r fenter i sefydlu llyfrgell newydd, a fydd yn cael ei ‘gweinyddu’ gan ddisgyblion yr ysgol yn ystod amseroedd chwarae a chinio, wedi derbyn nawdd gan Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru a Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor.
Meddai’r Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Bangor: “Wedi ei lleoli dan yr un to â’r ysgol a chanolfan gymunedol, bydd y llyfrgell yn cael ei pherchnogi gan y plant a fydd yn ei chynnal a’i defnyddio, a hynny yn ei dro yn arwain at ymgysylltu pellach rhwng y plant, eu rhieni, yr ysgol a’r Brifysgol. I’r perwyl hwn, mae trefniadau yn eu lle ar gyfer rhaglen o ymweliadau â llyfrgelloedd y Brifysgol yn ystod 2014/15.”
Yna, aeth ymlaen i Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon lle bu'n profi cynnyrch project arall a dderbyniodd gyllid gan y Brifysgol, Codi’r To. Wedi’i seilio ar raglen fyd-enwog El Sistema yn Ne America, mae Codi’r To yn broject adfywio cymunedol sy’n defnyddio grym cerddoriaeth er mwyn darparu profiadau gwirioneddol i blant, a thrwy hynny, godi eu hunan-hyder a’u hymwneud â’r gymuned o’u cwmpas. Gyda nawdd gan Brifysgol Bangor, aeth tiwtoriaid proffesiynol ati i weithio gyda disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Maesincla ac i ddarparu hyfforddiant deinamig iddynt ar chwarae offerynnau pres a tharo.
Meddai’r Athro Hunter: “Mae canlyniad eu hyfforddiant dwys hwy, dros gyfnod o ddau dymor, yn brofiad cerddorol heb ei ail. Yn ogystal â chyfrannu at gynnal yr hyfforddiant ymarferol, darparwyd cyllid ychwanegol gan y Brifysgol er mwyn cynnal ymchwil academaidd o safon ym maes cerddoriaeth a seicoleg. Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot hwn, bydd y Brifysgol yn cyfrannu at gynnal project estynedig yn 2014/15, gan gynyddu nifer y disgyblion a fydd yn cymryd rhan ac yn dwysáu’r asesiad effeithiolrwydd gan academyddion y Brifysgol.”
Yn olaf, bu Mr Lewis yn ymweld ag Ysgol Glancegin ym Mangor, er mwyn arsylwi dosbarth o ddisgyblion Blwyddyn 4 yn profi sesiwn o greu robots electronig gan ddefnyddio Lego. Mae G2G (Good 2 Great), gyda nawdd gan y Brifysgol, eisoes wedi cynnal sesiynau gyda disgyblion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac wedi profi cryn lwyddiant wrth gyflwyno agweddau ar bynciau STEM drwy gyfrwng y briciau bach plastig.
Meddai Huw Lewis:
“Roedd yn bleser ymweld â gwaith projectau ehangu mynediad ac ymestyn allan o dan ofal Prifysgol Bangor a Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yng Nghaernarfon a Bangor. Roedd thema gyffredin yn rhedeg drwy’r projectau- y llyfrgell yng Nghaernarfon, Codi’r To ym Maesincla a’r gweithdai Lego, ymysg eraill, yng Nglancegin. Yr hyn oedd yn gyffredin oedd y rhyngweithio rhwng y plant, eu rhieni, yr athrawon a staff y Brifysgol a’r modd yr oedd hynny yn ysbrydoli. Mae gan bartneriaethau o’r fath y potensial i newid bywydau, ac roedd yn wych gweld arbenigedd y Brifysgol yn dod a budd i’w chymuned leol yn y fath fodd."
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2014