Gweithdy ‘MATLAB ar gyfer Seicoleg Arbrofol’ yn Profi’n Boblogaidd Iawn
Ar 26 a 27 Gorffennaf, cynhaliodd yr Ysgol Seicoleg weithdy deuddydd ar ‘MATLAB ar gyfer Seicoleg Arbrofol’. Gyda dim ond 18 o leoedd ar gael, mynegodd mwy na 150 o fyfyrwyr o wahanol rannau o’r DU ddiddordeb. PstPAG a gyllidodd y gweithdy, a bu’r Ysgol Seicoleg mor hael â rhoi benthyg ei labordy dadansoddi delweddau. O ganlyniad, roeddem mewn sefyllfa unigryw, am ein bod yn gallu cynnig gweithdy rhaglennu fforddiadwy o ansawdd uchel i ôl-raddedigion na fuasent, o bosibl, â’r adnoddau i fynd i’r gweithdai a oedd wedi ennill eu plwyf i raddau mwy.
Daeth tri o’r cyfranogwyr oddi mewn i’r Ysgol Seicoleg yma ym Mangor, ond daeth eraill o leoedd mor bell â Plymouth a Chaergrawnt, Stirling a Chaerefrog. Erbyn y diwedd, ymddangosai pawb yn hapus iawn ac fel pe baent wedi cael argraff dda gan yr amgylchedd gweithio sydd gennym ni yma ym Mangor. Roedd yr adborth ar yr hyfforddiant, a roddwyd gan Dr. Robin Kramer ac Alex Jones, yn gadarnhaol iawn, a mynegwyd y farn gyffredinol fod y mathau hyn o weithdai sgiliau yn amhrisiadwy ar gyfer ôl-raddedigion sy’n ymuno â marchnad swyddi fwyfwy cystadleuol.
Yn gyffredinol, gwych o beth yw adrodd ar ddigwyddiad llwyddiannus iawn, un a fu’n adlewyrchu’n dda iawn ar yr adnoddau trawiadol sydd gennym yma ym Mangor, a hefyd ar barodrwydd staff ac ôl-raddedigion i gymryd rhan wrth rannu’r medrau a’r arbenigedd sydd gennym yn yr Adran, ac rydym yn gobeithio cynnal gweithdai cyffelyb yn y dyfodol, er mwyn ateb y galw mawr a geir.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2012