Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Gwener - Diwrnod o Farddoniaeth, Cerddoriaeth a Ffilm
Projectau Pontio – y Celfyddydau a Dementia – yn yr Eisteddfod
Bydd projectau Pontio a fu’n ymwneud â’r celfyddydau a dementia’n cael eu harchwilio mewn digwyddiad ym Mhabell Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod.
Mae’r Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi, sydd i agor y flwyddyn nesaf, wedi ymgymryd ag amrediad o brojectau a phreswyl celfyddydol sydd yn ymchwilio i’r celfyddydau a dementia.
Mewn digwyddiad agored sydd i’w gynnal ddydd Gwener am 11.00, bydd yr Athro Jerry Hunter, Cyfarwyddwr Ymchwil Pontio, a Chyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert, yn cyflwyno projectau sy’n pontio meysydd ymchwil a’r celfyddydau.
Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys perfformiad gan y cerddor Manon Llwyd, a fu’n arwain Corneli Cudd – preswyl celfyddydol gyntaf Pontio a ddigwyddodd yng nghartref preswyl Plas Hedd ym Mangor a darlleniadau gan nifer o feirdd sydd wedi bod yn gweithio efo pobol â dementia.
Mae Ymryson cyfeillgar rhwng Beirdd Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth wedi digwydd ers tair blynedd bellach; eleni, tro Prifysgol Bangor yw hi i groesawu’r timau a fydd yn Ymryson o dan ofal y Prifardd Parchedig John Gwilym Jones. Mae croeso i bawb daro mewn i rannu’r diddanwch a’r ffraethineb a fydd yn cychwyn am 12.30pm ym Mhabell Prifysgol Bangor.
Dangosiadau Ffilm
Mae myfyrwyr o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi cael llwyddiant mawr dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gael enwebiadau ac ennill gwobrau mewn llu o wyliau amrywiol, gan gynnwys Gwobrau Ffresh, y Gymdeithas Deledu Frenhinol, Gŵyl Ffilmiau Bach Caerdydd, Gŵyl Ffilm Manceinion, Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin a Gwobrau Gwyliau Ffilm Efrog Newydd. Yn eu plith, mae Osian Williams o Bontypridd, a enillodd radd ddosbarth cyntaf ac a gynhyrchodd, ymhlith gweithiau eraill, y ffilm fer ‘Cân i Emrys’ a gafodd ei darlledu ar S4C eleni, yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch ‘The Valleys are here’. Myfyriwr arall a gafodd lwyddiant mawr yw John Evans o Fangor, myfyriwr hŷn a chyn-filwr sydd ar fin cwblhau cwrs MA Ffilm, hefyd ar ôl ennill gradd ddosbarth cyntaf ym Mangor. Bydd cyfle i weld gwaith Osian, John a myfyrwyr eraill yn yr Eisteddfod ar brynhawn Gwener 9 Awst o 1.00 ymlaen.
Yn ôl Geraint Ellis, Uwch-Darlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, “Mae gwaith y myfyrwyr yma o safon uchel iawn, ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyffrous dros ben, o ran y modd y mae rhyw fath o gymuned o wneuthurwyr ffilm talentog wedi cael ei sefydlu yma ym Mangor”, meddai Geraint Ellis, o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau. “Mae ’na amrywiaeth fawr o ran y math o waith sy’n cael ei gynhyrchu, ac mae pawb yn annog ei gilydd, yn ogystal â chynnal naws gystadleuol iach.”
I gloi digwyddiadau ar stondin y Brifysgol ar y Maes am yr wythnos, bydd y band poblogaidd a phrysur, Swnami, yn canu’n fyw ar y stondin am 3pm.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013