Gweithgareddau Eisteddfod Dydd Llun
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, bydd Ysgol y Gymraeg yn dathlu’r cyfle a gafodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gydweithio â thri chwmni ym maes cyhoeddi Cymraeg, sef Gwasg y Bwthyn, Gwasg Carreg Gwalch, a Barn Cyf.
I nodi'r cydweithio â Gwasg y Bwthyn, caiff cyfrol o gerddi ‘Ai Breuddwydion Bardd Ydynt?’ gan John Gruffydd Jones (Gwasg y Bwthyn) ei lansio fore Llun, 5 Awst, am 11.30 o’r gloch ym mhabell y brifysgol. Bydd hwn yn ddathliad dwbl, gan fod John hefyd wedi cwblhau cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor yn 2012.
Caiff y gyfrol 'Sgyrsiau Noson Dda' (Gwasg Carreg Gwalch) gan Dyfed Evans ei lansio'r un diwrnod am 12.45 o’r gloch ym mhabell Prifysgol Bangor. Cafodd y gwaith o brosesu a chynhyrchu'r gyfrol hon ei hwyluso gan Gwenno Gruffydd myfyrwraig Mynediad i Radd Meistr ym Mangor mewn partneriaeth â Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst. Mae’r cynllun Mynediad i Radd Meistr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brojectau MA mewn cydweithrediad â’u goruchwilwyr academaidd a chwmni neu gorff allanol . Fe’i gyllidir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy’r rhaglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Ysgol y Gymraeg wedi cydweithio ar broject Mynediad i Radd Meistr gyda Cwmni Barn Cyf, sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn materion cyfoes a diwylliannol 'Barn'. I ddathlu llwyddiant y cydweithio hwn, cynhelir darlith flynyddol y cylchgrawn ym mhabell Bangor am 2 o’r gloch brynhawn Mawrth. Y darlithydd eleni fydd Guto Bebb AS.
Yr Ysgol Dysgu Gydol Oes fydd yn cymryd yr awenau am 2.00 o’r gloch gyda’r ddarlith ‘Atebion Cymreig i argyfwng deallusol y diwylliant Eingl Americanaidd’ gan Selwyn Williams, darlithydd o’r ysgol.
Technoleg Gyfieithu Cymraeg yn y Steddfod
Brynhawn Llun am 4 o’r gloch, bydd tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn arddangos rhai o uchafbwyntiau eu gwaith eleni.
Un o’r cynnyrch mwyaf arloesol fydd yn cael ei ddangos fydd y system gyfieithu newydd, CyfieithuCymru.
Meddai Delyth Prys, pennaeth yr uned “Dyma’r system gyntaf o’i bath sy’n canolbwyntio ar gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Fe wnaethon ni ei datblygu yn y lle cyntaf ar gyfer gwasanaeth cyfieithu mewnol Prifysgol Bangor, ond o weld y diddordeb ynddi gan gyrff eraill yng Nghymru, rydyn ni wedi datblygu fersiwn masnachol ohoni. Mae’n bwysig fod yr offer technolegol mwyaf blaenllaw ar gael i gyfieithwyr Cymru, ac mae’r system hon yn cyflymu’r gwaith yn fawr, ac yn helpu rheoli’r ansawdd ar yr un pryd – peth prin iawn i ddarn o feddalwedd allu ei wneud”.
Disgrifiad o’r system
Mae’r system gyfieithu yn cynnwys elfennau sy’n rheoli’r llif gwaith, o’r adeg pan fydd cwsmer yn archebu cyfieithiad, drwy’r broses o ddyrannu’r gwaith i gyfieithydd penodol, ei anfon yn ôl at y cwsmer, ei archifo a chynhyrchu adroddiadau ac ystadegau am y gwaith cyfieithu. Mae hefyd yn cynnwys cymorth cyfieithu: cof cyfieithu, cyfieithu peirianyddol a gwiriwr sillafu a gramadeg. Yn y cof cyfieithu, mae brawddegau tebyg o hen gyfieithiadau yn codi ar y sgrin er mwyn arbed gorfod ail-gyfieithu’r un peth. Am y tro cyntaf erioed, mae awgrymiadau o raglen cyfieithu peirianyddol yr Uned Technolegau Iaith yn cael eu cynnig, yn yr un ffordd â deunydd o’r cof. Mae Cysill hefyd wedi’i integreiddio i’r cof, yn cywiro camgymeriadau wrth i’r cyfieithydd deipio. Mae geirfa gywir hefyd yn cael ei hawgrymu wrth i’r cyfieithydd deipio, ac mae’r cyfan yn cael ei gadw ar weinydd pell, neu yn ôl jargon y diwydiant heddiw, yn y “cwmwl”. Ystyr hyn yn ymarferol yw nad oes raid i’r cyfieithydd boeni am gynnal a chadw’r ochr dechnegol, y cyfan sydd angen ei wneud yw mewngofnodi gyda’i gyfrinair personol. Mae’r system yn cael ei rhannu rhwng cyfieithwyr mewn un corff neu sefydliad, ac mae modd iddyn nhw rannu cof a geirfa yn hwylus felly hefyd. Maen nhw hefyd yn gallu gweithio o bell, os oes ganddynt gyswllt gwe. Does dim esgus bellach dros fethu â gweithio os yw eira mawr neu lifogydd yn eu rhwystro rhag cyrraedd y swyddfa!
Hyfforddiant i ddiwydiant
Bydd cyfle yn y sesiwn hefyd i glywed mwy am gynllun Hyfforddiant Ieithoedd a Chyfieithu yr uned (TILT). Mae hwn yn gynllun ar y cyd â Phrifysgol Abertawe dan nawdd Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Y nod yw gwella sgiliau iaith a chyfieithu busnesau yng ngogledd a gorllewin Cymru, er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a’r cyhoedd. Bydd hyfforddiant ar gael ar dechnoleg cyfieithu ym Mhrifysgol Bangor yn defnyddio’r system CyfieithuCymru er mwyn dysgu cyfieithwyr a swyddogion iaith sut mae systemau cof cyfieithu yn gweithio. Dywedodd David Chan, prif ddatblygwr y system CyfieithuCymru sydd hefyd yn gweithio ar y project TILT: “Mae cwmnïau cyfieithu wedi bod yn gofyn i ni eu dysgu i ddefnyddio’r dechnoleg ers tro. O’r diwedd dyma gyfle i ni wneud hynny go iawn, a chyfle i’r cyfieithwyr astudio’n rhan-amser ar fodiwlau MA Cyfieithu ar yr un pryd.”
Yn ogystal â hyfforddiant i gyfieithwyr, bydd TILT yn cynnig gwersi Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg, Japaneg a Tsieinëeg i gwmnïau, unwaith eto gan wneud defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf i hwyluso’r gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013