Gweithiwr siop yn ennill gwobr a Gradd Cyntaf
Mae myfyriwr ôl-raddedig hŷn, a adawodd yr ysgol yn 15 oed, yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dywedodd Ged Hodgson, 43, o Lanfairfechan, sy'n graddio gydag MA mewn Saesneg: "Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf yn fy BA ac MA ym Mangor, rwyf yn falch o fod yn graddio am yr ail dro. Rwyf yn arbennig o falch o weld cynifer o'r staff a’r ffrindiau a lwyddodd i wneud fy amser ym Mangor mor bleserus.
"Ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed, bûm yn llenwi silffoedd ar y shifft nos mewn archfarchnad leol, cyn mynd i'r coleg, ac yna gwneud cais i astudio Saesneg ym Mangor. Dilynais gwrs rhan-amser Mynediad i Addysg Uwch, a sefais fy arholiadau TGAU yng Ngholeg Llandrillo. Fe wnes i fwynhau astudio cymaint fel y penderfynodd fy ngwraig, Sarah, wneud yr un cwrs mynediad. Gwnaethom gais i Fangor ar yr un pryd ond ar gyfer cyrsiau gwahanol, hithau’n gwneud gradd Meistr Gwyddor yr Amgylchedd.
"Rwy'n dioddef o tendonitis cronig yn fy mraich dde, sydd yn un o'r rhesymau pam y penderfynais ddychwelyd at addysg fel myfyriwr hŷn, bron i 25 mlynedd ar ôl gadael yr ysgol. Sylweddolais na fyddwn yn gallu gwneud gwaith corfforol cyn hir ac y byddai'n rhaid i mi ddysgu sut i ddefnyddio fy meddwl yn hytrach na fy nwylo. Cefais help ym Mangor i ddod i ben gyda fy anabledd. Er enghraifft, darparu cyfrifiadur ac offer recordio i leihau faint o nodiadau roedd yn rhaid i mi eu gwneud mewn darlithoedd. Yn ystod fy amser ym Mangor, rwyf wedi cael cefnogaeth lawn ac rwy'n ddiolchgar i’r brifysgol am wneud fy astudiaethau mor ddi-boen â phosib."
Am Fangor, ychwanegodd Ged: "Pan euthum i ddiwrnod agored roedd y darlithwyr yn groesawgar ac yn ysbrydoledig ac, am y tro cyntaf, roeddwn yn credu fod mynd i brifysgol yn rhywbeth y gallwn i ei wneud. Pan wnes i gais, roeddwn yn ddigon ffodus i ennill ysgoloriaeth deilyngdod, oedd yn gwarantu lle imi ar cwrs, a gwnaeth yr ysgoloriaeth wahaniaeth go iawn pan fu’n rhaid imi roi'r gorau i weithio.
"Ar wahân i ennill gwobr goffa Danby am fod yn un o'r myfyrwyr gorau yn yr Ysgol Saesneg yn fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr israddedig, cefais weithio gyda siop lyfrau The Muse ym Mangor fel rhan o fy ysgoloriaeth mynediad at radd meistr a wnaeth fy MA Saesneg yn bosib. Roedd hyn yn cynnwys cynnal astudiaeth achos o sut mae myfyrwyr yn darllen testunau ar adeg pan fo cymaint o bobl yn defnyddio Kindle neu’n lawrlwytho erthyglau oddi ar y we. Roedd yn broject uchelgeisiol ond roedd y gefnogaeth a gefais yn wych, ac roedd y profiad o reoli project mawr yn rhoi boddhad mawr imi.”
Ynglŷn â’r dyfodol, ychwanegodd Ged: "Derbyniais ysgoloriaeth PhD wedi’i gyllido’n llawn gan Brifysgol De Montfort, Caerlŷr, ac rwyf yn astudio bywgraffiadau a hunangofiannau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a ysgrifennwyd gan Charles Knight. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn arwain at swydd fel ymchwilydd neu ddarlithydd. Byddai hynny’n tystio i'r gwahaniaeth mae Coleg Llandrillo a Phrifysgol Bangor wedi’i wneud i fy mywyd i, trwy fy helpu i symud ymlaen o lenwi silffoedd i fod yn ennill doethuriaeth, gobeithio."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013