Gwella bywoliaethau dros 5m o deuluoedd yn India a Nepal
Mae dull newydd arloesol o fridio planhigion yn gwella bywoliaethau dros 5m o deuluoedd yn India a Nepal.
Datblygwyd y dull newydd hwn, sef bridio planhigion dethol, yn wreiddiol gan yr Athro John Witcombe ym Mhrifysgol Bangor, er mwyn cwrdd ag anghenion hysbys ffermwyr prin eu hadnoddau yng nghrastiroedd Gujarat, India. Mae’r Athro'n gweithio gyda ffermwyr a defnyddwyr brodorol, gan gyflwyno priodweddau y mae ffermwyr yn gofyn amdanynt i rywogaethau reis ac India-corn a chan dynnu hefyd ar brofion rhywogaethau ar ffermydd a phrofiadau ffermwyr. Mae’r dull hwn wedi cynhyrchu rhywogaethau reis ac India-corn newydd sydd wedi eu haddasu'n dda i ofynion a dymuniadau ffermwyr lleol, ac mae hyn yn ei dro yn golygu bod y gymuned ffermio'n fwy tebygol o'u mabwysiadu a'u lledaenu.
Trwy ddulliau cyfranogol o ddewis rhywogaethau (PVS) datblygwyd y rhywogaeth reis boblogaidd BG1442 yn Nepal a datblygwyd hefyd 10 rhywogaeth newydd o reis gan ddefnyddio dulliau bridio cleient-ganolog (COB) yn India a Nepal a bellach mae’r rhywogaethau newydd hyn yn cael eu tyfu ar 500,000 ha o leiaf gan gynhyrchu rhwng 15–40% yn fwy o gnwd na rhywogaethau traddodiadol.
Yn India, amcangyfrifir bod dwy rywogaeth reis ‘Ashoka’ yn unig (200F a 228) yn darparu elw o £17M y flwyddyn i'r ffermwyr tlotaf a'u teuluoedd. Mae'r rhywogaethau hyn yn boblogaidd oherwydd eu bod yn rhoi cnydau da, grawn o ansawdd da, blas gwell a hefyd yn cynhyrchu porthiant anifeiliaid. Maen nhw'n barod i'w cynaeafu'n gynnar sy'n golygu bod bwyd ar gael yn ystod cyfnodau o brinder ac oherwydd eu bod yn gwrthsefyll pla a sychdwr yn dda, mae'r costau'n is a'r llafur yn llai.
Mae'r manteision uniongyrchol hyn yn caniatáu i ffermwyr blannu cnydau ychwanegol neu neilltuo amser i weithgareddau eraill ac eithrio amaeth, sy'n rhoi incwm ychwanegol iddynt ac yn eu galluogi i anfon eu plant i'r ysgol.
Mae rhywogaeth newydd o India-corn wedi cael effaith fawr ar gynhyrchiant bwyd yng Ngorllewin India rhwng 2008-2013. Mae GM-6 wedi cynhyrchu 360,000 tunnell ychwanegol o rawn bwyd yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda gwerth net cyfan hyd yma o £9M y flwyddyn ar gyfartaledd i'r ffermwyr a'u teuluoedd yn y rhanbarth hwn.
Datblygwyd GM-6 i berfformio'n well na rhywogaethau eraill o dan amodau sychdwr ac mewn pridd gwael ac ar gyfartaledd mae'n cynhyrchu 28% yn fwy o rawn na'r rhywogaethau gorau eraill sydd ar gael. Ers iddi gael ei rhyddhau mewn tair talaith yng Ngorllewin India rhwng 2002 a 2005, mae'r defnydd o GM-6 wedi lledaenu'n gyflym a bellach mae'n cael ei thyfu ar draws dros 2M o hectarau i gyd, a 54% (mwy nag 1M ha) o hynny yn y cyfnod 2008-2013.
Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol fawr ar les a ffyniant o leiaf 330,000 o deuluoedd y flwyddyn ac wedi galluogi ffermwyr i werthu mwy o rawn yn ogystal ag estyn y cyfnod y gall teuluoedd gynnal eu hunain yn llwyr o fwy na mis.
Oherwydd bod anghenion ffermwyr yn cael eu targedu'n ofalus, ni fu angen i'r ffermwyr weithio mwy na defnyddio mwy o adnoddau. Y canlyniad yw rhywogaeth sy'n aeddfedu'n gynt ac yn cynhyrchu cnwd mwy, ac sy’n barod i’w gynaeafu’n gynt na phe defnyddid dulliau traddodiadol o dyfu planhigion.
Ers hynny mae had GM-6 wedi cael ei ryddhau'n swyddogol yn holl barth amaeth-hinsoddol Gujarat a'i argymell yn swyddogol ar gyfer Rajasthan a Madhya Pradesh.
Mae’r gwaith yn ffrwyth project ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Amaeth Gujarat wedi ei gyllido gan DFID.
Bydd yr astudiaeth achos yma yn rhan o arddangosfa Wythnos Prifysgolion: Syniadau am Oes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am yr effaith a gafodd ein prifysgolion dros
y 100 mlynedd diwethaf, ynghyd â’r ymchwil mwyaf arloesol a bywyd-newidiol heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2014