Gwella cynhyrchiant Hyrddod a mynd i'r afael â throseddau
Mae Parc Gwyddoniaeth ar Ynys Môn yn mynd i'r afael â throseddau gwledig, drwy ddefnyddio dyfais IoT (y Rhyngrwyd Pethau) sydd wedi cael ei datblygu’n arbennig. Gan ddod â thechnoleg IoT ac arloesedd ynghyd, mae dyfais sydd yr un maint â bocs matsis wedi cael ei chreu sy’n gallu helpu i fynd i'r afael â dwyn defaid, cŵn yn poeni defaid, ac mae hyd yn oed yn gallu tracio patrymau paru hyrddod.
Mae Gogledd Cymru, sef cartref M-SParc, yn ardal wledig. Cafodd o leiaf 6 achos o ddwyn defaid ei gofnodi yng Ngwynedd dros flwyddyn, yn ogystal â 14 achos o gŵn yn poeni defaid. Achosodd hyn filoedd o bunnoedd o golledion a difrod, ac felly mae’r ddyfais newydd hon yn mynd i'r afael â phroblem ddifrifol.
Mae’r IoT, i'r rheini sydd ddim yn ymwybodol, yn ffordd o gysylltu dyfeisiau clyfar i'w gilydd, gan gynnwys ceir, oergelloedd, bylbiau golau, a'ch hyrddod!
Eglurodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc: “Mae’r IoT yn ffordd o gysylltu dyfeisiau penodol â’i gilydd, drwy rwydwaith LoRaWAN yn yr achos yma, a rhoi tasgau iddyn nhw eu gwneud! Does dim angen cysylltiad Wi-Fi na signal symudol, ac felly mae’n ateb perffaith i lawer o broblemau mewn ardal wledig.
“Un broblem a ddaeth i’r amlwg mewn trafodaethau gyda ffermwyr oedd dwyn defaid. Gall hyn gostio hyd at £50,000 i ffermwyr, yn ogystal â llawer o amser gwerthfawr, heb sôn am yr heddlu a’r adnoddau cyhoeddus sy’n cael eu defnyddio er mwyn ymchwilio i'r troseddau yma. Roedd miloedd o achosion o ddwyn yn y DU y llynedd, a dim ond 1 gafodd ei ddatrys. Felly, rydyn ni wedi cydweithio â Phrifysgol Bangor er mwyn penodi unigolyn graddedig i weld beth allai gael ei ddatblygu. Dechreuodd Jack Sheridan, a enillodd radd o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, ar y gwaith ar unwaith.
“Mae’r ddyfais mae wedi’i chreu yn gallu cael ei defnyddio ar harnais paru hyrddod safonol, felly rydyn ni’n gwybod yn barod ei bod yn ddiogel i gael ei defnyddio ar anifeiliaid. Mae’n gweithio drwy dracio defaid i weld os ydyn nhw’n dechrau symud ar gyflymder penodol am gyfnod penodol. Pan mae’r ddyfais yn cael ei hysgogi gan symudiad, mae’r ffermwr yn cael gwybod drwy neges SMS, ac mae’n gallu cymryd camau i stopio’r drosedd. Bydd y ddyfais hefyd yn casglu data o ffonau symudol sydd gerllaw, fel bod siawns uwch o ganfod ac erlyn y troseddwyr os oes trosedd. Mae’r wybodaeth yn cael ei bwydo’n syth i'r ffermwr, sydd â'r cyfle i fonitro’r ddiadell a stopio’r drosedd, neu i roi gwybod i'r awdurdodau mewn da bryd.”
Yn ystod cyfnod datblygu’r ddyfais, daethpwyd o hyd i ddefnydd annisgwyl arall iddi hefyd. Gan ei bod eisoes yn cael ei rhoi ar harnais paru defaid, ac yn monitro symudiadau'r ddafad honno neu'r hwrdd hwnnw, y bwriad yw y bydd yn gallu adnabod yr hyrddod sydd fwyaf gweithgar yn ystod y tymor paru. Drwy dracio symudiad, mae’r ddyfais IoT yn gwybod pa hyrddod sy’n symud o gwmpas y defaid ar gyfradd effeithlon, a gall hyd yn oed ddefnyddio sglodion electronig sydd yn nhagiau clust yr anifeiliaid er mwyn nodi pa ddefaid y mae’r hyrddod wedi paru â nhw. Yr hyrddod mwyaf gweithgar yw'r rhai mwyaf defnyddiol i ffermwyr, ac mae’n golygu y gall yr hyrddod llai gweithgar gael eu symud ymlaen i lefydd eraill, yn hytrach na’u bod nhw’n defnyddio adnoddau gwerthfawr y fferm.
Ychwanegodd Pryderi: “Mae Jack bellach yn cael ei gyflogi gennym ni’n llawn amser i weithio ar hyn ac ar gysyniadau tebyg. Mae dod â chymdeithas, diwydiant, y byd academaidd ac arbenigedd ynghyd er mwyn gwneud pethau fel hyn yn dangos beth mae Parc Gwyddoniaeth yn gallu ei gynnig i ardal. Rydyn ni’n dod yn ganolbwynt ar gyfer y rhanbarth o ran arloesi, ac yn bwysicach, arloesi sy’n gallu cael ei fasnacheiddio. Twf economaidd yw’r nod, ac rydyn ni’n gwireddu hynny.”
Dywedodd Rhodri Owen, Rheolwr Fferm a Choedwig Coleg Glynllifon, sy’n helpu i dreialu'r ddyfais: “Mae’r gymuned ffermio yn croesawu’r ddyfais hon – nid yn unig oherwydd pa mor gyffredin yw achosion dwyn anifeiliaid fferm gwerthfawr, ond hefyd am fod ein ffermwyr yn arloesol ac yn flaengar. Maen nhw’n llawer iawn mwy agored i'r syniad o ddefnyddio technoleg mewn ffermio na mae pobl yn ei gredu, ac maen nhw wedi bod yn agored iawn wrth rannu pa faterion yr hoffent weld yr IoT yn mynd i'r afael â nhw. Mae rhai ohonyn nhw’n defnyddio dyfeisiau poblogaidd eraill ar eu ffermydd yn barod. Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous iawn am hyn.”
Mae M-SParc yn Barc Gwyddoniaeth yng ngogledd Cymru sy'n eiddo i Brifysgol Bangor. Cafodd ei sefydlu i arallgyfeirio ac i ysgogi economi'r rhanbarth. Mae hyn yn cael ei wneud drwy: roi cefnogaeth fusnes pwrpasol i helpu cwmnïau i ddatblygu; ysgogi'r economi trwy gynyddu nifer y gyrfaoedd â chyflog da sydd ar gael; cynnal digwyddiadau ar gyfer rhwydweithio a chydweithio; dod â'r byd academaidd a’r byd busnes ynghyd; rhoi lle i gwmnïau’r sector gwyddoniaeth a thechnoleg trwy ddarparu gofod swyddfa a labordy iddynt; a mynd i'r afael â throseddau. Mae unrhyw beth yn bosibl gyda’r IoT.
Mae’r IoT yn cael ei ddathlu yn y rhanbarth o ganlyniad i brosiect ar y cyd â Menter Môn, sef cwmni nid-er-elw sy’n darparu atebion i heriau mewn ardal wledig, a North Wales Tech, sef grŵp o bobl o’r un anian yn y Sector Technoleg. Mae ‘blwyddyn yr IoT’ yn annog pobl i ganolbwyntio ar broblemau ac atebion yr IoT. Dim ond un o'r problemau sydd wedi cael eu nodi yw dwyn defaid. Mae’r partneriaid yn edrych ar atebion i broblemau mewn gwahanol feysydd, gan gynnwys gofalu am bobl hŷn a gwagio biniau. Dilynwch #YoIoT ar Twitter i roi eich barn.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019