Gwen Elin yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2015
Nos Sul, Hydref 25, 2015 fe gipiodd y gantores Gwen Elin o Benllech, Ynys Môn Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2015 mewn noson wefreiddiol a gynhaliwyd yn Sefydliad y Glowyr y Coed Duon. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Gwen yn y noson oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Eisteddfod eleni.
Daeth Gwen, sydd yn wreiddiol o Benllech a bellach yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, i’r brig wedi ei pherfformiad gwefreiddiol o flaen y pump beirniad – Stifyn Parri, Gwawr Owen, Gwenan Gibbard, Siân Teifi a Catrin Lewis Defis. Roedd rhaglen Gwen yn cynnwys ‘Yn Sydyn Seymour’ o ‘Little Shop of Horrors’ a ‘Y Dewin a Fi’ allan o’r Sioe Gerdd ‘Side Show’. Fel rhan o weithgareddau paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth cafodd ddosbarth meistr gan seren y West End, Connie Fisher.
Mae Gwen yn aelod o Aelwyd yr Ynys, Theatr Fach Llangefni a Chôr Merched Llewyrch, ac mae hi a’i brawd Deio yn ddiweddar wedi ffurfio parti canu i blant yn ardal Benllech, Ynys Môn o’r enw Plant Mathafarn.
Meddai Gwen, “Mi oedd yn brofiad anhygoel cystadlu heno ac mi oedd pawb yn ffantastig – doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl! Mae’n deimlad hollol bizare a allai i ddim credu mod i wedi ennill!
“Dwi’n bwriadu defnyddio’r arian i ariannu cwrs ôl-radd mewn cerdd a drama un ai mewn coleg yn Llundain neu Gaerdydd.”
Yn ôl Stifyn Parri, un o’r beirniaid, “Mi oedd y safon yn rhagorol heno ac mi allem ni fod wedi rhoi yr ysgoloriaeth i un o’r chwech ond perfformiad Gwen aeth a hi – mi oedd rhywbeth hudolus am ei pherfformiad wnaeth i’r gynulleidfa eistedd ar flaen eu seddi.
”Mi oedd hi yn anodd dod i benderfyniad ac mi oedd gan bawb eu rhinweddau ond mi oeddem yn unfryd ein barn mai Gwen oedd yn haeddu yr ysgoloriaeth eleni.”
Ychwanegodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Cawsom gyngerdd gwefreiddiol yn Sefydliad y Glowyr heno. Roedd yn wych fod yr enillwyr talentog hyn wedi dychwelyd i ardal Caerffili i gystadlu am yr ysgoloriaeth uchel ei bri hon. Rwy’n hyderus y bydd yr ysgoloriaeth hon yn rhoi hwb werthfawr i yrfa berfformio Gwen ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei hanes yn y dyfodol.”
Dywedodd Dr Manon Wyn Williams, darlithydd sgriptio a drama yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, ac enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2008:
“Fel aelod o staff Ysgol y Gymraeg ac fel ffrind i Gwen, rwyf yn hynod o falch o’i llwyddiant ac mae’n braf bod ei thalent yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Bydd ennill yr Ysgoloriaeth hon yn sicr yn agor drysau iddi ar gyfer gyrfa ddisglair ym myd perfformio.”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015