Gwerddonau’r cefnforoedd: Sut y mae ynysoedd yn cynnal mwy o fywyd môr
Mae theori sydd wedi bodoli ers 60 o flynyddoedd ac sydd yn esbonio pam fo moroedd sy’n amgylchu ynysodd ac atolau yn cynnal mwy o fywyd gwyllt newydd ei brofi gan fiolegydd morol o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad efo aelod o Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol yr Unol Daleithiau.
Nid yw’r cefnforoedd agored yn ymddangos eu bod yn cynnal cymunedau mawr o fywyd gwyllt, ond wrth nesáu at rîff cwrel neu atol, byddwch yn siŵr o ddod ar draws gormodedd o fywyd, o lefel uwch o blancton yn y dŵr at adar a bywyd morol. Pan welodd Charles Darwin riff cwrel am y tro cyntaf, roedd yn pendroni dros hyn. Sut y gall amgylchedd mor gynhyrchiol fodoli mewn amgylchedd oedd yn arwynebol yn un eithaf difywyd?
Erbyn hyn, mae’r cwestiwn o sut y mae sustem mor gynhyrchiol o ran cynnal bywyd gwyllt yn bodoli mewn amgylchedd- ddi-gynnyrch yn cael ei alw’n paradocs Darwin.
Mae Effaith Màs Ynys yn ddamcaniaeth sydd yn esbonio pam fo dyfroedd sy’n amgylchynu riffiau ac atolau yn cynnal digonedd o fywyd môr na’r hyn a geir yn y cefnfor agored.
Yn ysgrifennu yn Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms10581), mae’r awduron yn disgrifio maint yr Effaith Màs Ynys ac yn nodi rhai o’r nodweddion allweddol sydd yn gyrru’r effaith adborth positif cylchol, sydd yn gweithredu fel mecanwaith cynnal- bywyd.
Mesurodd yr ymchwilwyr cynnydd anferthol yn y plancton yn y dyfroedd yn amgylchynu 35 o ynysoedd bychain ac atolau'r Môr Tawel. Fe recordiwyd hyd at 86% yn fwy o ffytoplancton yn y dyfroedd hyn, nag sydd yn y cefnfor agored. Yn sail i’r gadwyn fwyd, mae presenoldeb nifer fawr o’r organebau microsgopig yn cael effaith ar hyd y gadwyn fwyd, hyd at yr uwch ysglyfaethwyr fel tiwna, sydd yn bwydo ar y pysgod ac anifeiliaid a geir cynhaliaeth gan y ffytoplancton.
Ond pam fo’r plancton yn ffynnu yn yr ardaloedd hyn?
Unwaith y mae’r twf yn dechrau, mae’n dod yn gylchdro hunan-gynhaliol, gydag ychydig o fywyd yn esgor ar ragor. Mae presenoldeb daearyddol yr ynysoedd eu hunain yn creu patrymau cylchdroi gan gychwyn effaith adborth positif. Caiff pysgod eu denu at y ffytoplancton, a physgod mwy ac adar eu denu at hwythau. Mae eu tail yn ychwanegu gwrtaith i’r dŵr, sy’n annog cynhyrchiant hyd yn oed fwy o ffytoplancton, sydd yn ei tro yn cynnal mwy o fywyd.
Mae gweithgaredd dynol hefyd yn bwydo mewn i’r sustem. Mae dŵr ffo o wrtaith ar dir amaethyddol a gweithgareddau dynol eraill hefyd yn bwydo mewn i’r sustem- boed yn llesol neu beidio.
Elfen bwysig arall a adnabuwyd gan yr ymchwilwyr yw presenoldeb lagwnau o fewn riffiau’r atolau. Mae eu dyfroedd bas cysgodol yn denu nifer fawr o adar. Wrth i’r basn cael ei olchi gan y llanw ddwywaith pob dydd, lledaenir maetholion i’r dyfroedd bas ar ei ymylon, gan yrru twf pellach yn niferoedd plancton.
Meddai uwch awdur y papur, Gareth Williams, o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:
“Roedd y damcaniaeth yn cael ei dderbyn yn gyffredinol, ond nid oedd wedi ei brofi, tu hwnt i astudiaethau o ynysoedd unigol. Wedi profi’r damcaniaeth, rydym hefyd wedi sefydlu data sylfaenol gwerthfawr am ddigonedd bywyd morol o amgylch yr ynysoedd hyn, sy’n cynnwys rhai o ynysoedd mwyaf anghysbell/ pellennig y byd.
“Gyda dealltwriaeth o’r hyn sydd y tu ôl i gynhyrchiant ffytoplancton yn y Trofannau, gallwn ddechrau ymchwilio sut y gall y cynhyrchiant ei heffeithio o dan amgylchiadau newid yn yr hinsawdd i’r dyfodol, fel newid i batrymau cylchol a beth fyddai’r sgil effeithiau biolegol, yn enwedig i bysgodfeydd lleol.”
“Mae pegynau neu fannau o gynhyrchiant uchel ar draws y cefnfor agored sydd efallai yn gweithredu fel llochesi naturiol ar gyfer newid hinsawdd yn y dyfodol. Rydym angen dod i wybod am rhain mewn mannau efo a heb poblogaeth ddynol. Mae riffiau cwrel yn eironig, yn esiamplau o rhai o’r cynefinoedd sydd wedi dirywio fwyaf oherwydd newid a achoswyd gan ddyn, tra bod eraill yn brolio esiamplau mwyaf cyntefig a di-gyffwrdd ar y blaned.”
Meddai’r prif awdur, Jamison Gove, o adain ecosystemau a Chefnforeg y Weinyddiaeth Gefnforol ac Atmosfferig Cenedlaethol:
“Mae’r Effaith Màs Ynysoedd i’w gael bron ym mhobman- fe gawsom yn digwydd mewn 91% o’r sustemau riffiau cwrel a archwiliwyd yn y Môr Tawel. Mae’n amlwg yn fecanwaith hanfodol sydd yn darparu adnoddau llawn ynn i i gefnogi poblogaethau tynnol ymgynhaliol. Mae’n rhaid i ni ganfod pa sgil effeithiau eraill all ddigwydd o ganlyniad i hyn, a sut y gall yr holl fecanweithiau a sustemau cael eu newid yn y cyfnod o newid sydyn.”
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2016