‘Gwersylla Cartŵn’ - Dementia a’r Dychymyg yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Gall pobol sy’n mynd i ŵyl y Dyn Gwyrdd gadw llygad allan am gwpwl ‘rhithwir’ a fydd yn ymweld â’r Ŵyl- sef Doris ac Ivor. Bydd y cwpl dirgel- eu gwersyll a selsig- i gyd ar ffurf cartŵn, yno o dan ofal yr artist ymchwil Carol Hanson, a fydd, ynghyd ag aelodau eraill o'r tîm Dementia a’r Dychymyg yn mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd yr wythnos hon.
Bu Carol, dylunydd ac animeiddiwr sy’n byw yn Swydd Gaer, yn arsylwi ar rai o sesiynau celf Dementia a’r Dychymyg gyda chyfranogwyr sy'n byw gyda dementia. Y car a’r safle gwersylla cartŵn yw’r cyntaf mewn cyfres o osodiadau y bydd Carol yn eu gwneud.
Mae Dementia a’r Dychymyg yn astudiaeth ymchwil ar draws y DU sydd eisiau deall sut y gall celf helpu pobl sy'n byw gyda dementia, eu perthnasau, gofalwyr a chymunedau. Mae’r ymchwil yn cael ei harwain o Brifysgol Bangor gan arbenigwyr sydd â diddordeb mewn ymchwil ar sail tystiolaeth sydd yn gwella bywydau pobol sydd â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r project ymchwil Dementia a’r Dychymyg yn edrych ar fanteision cymdeithasol, ymarferol ac economaidd celf. Fel rhan o hyn, bu cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn 12 wythnos o sesiynau celf gydag artist proffesiynol, o dan arweiniad Gwasanaeth Celf Cyngor Sir Ddinbych. Roedd yr hiwmor yn y sesiynau hyn wedi tynnu sylw arbennig Carol, ac mae ei char cartŵn eisiau dathlu’r hiwmor hwnnw, gan fyw yn y presennol a chwalu'r myth o bobl sy’n 'mynd dipyn yn rhyfedd’.
Mae ei chymeriad Doris wedi bod yn brysur yn trydar am anturiaethau haf y cwpl, sydd eisoes wedi eu gweld yn ymddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Cynhelir yr ŵyl rhwng 20fed a 23ain Awst ym Mannau Brycheiniog. Gellir gweld y car a’r safle gwersylla yn stondin 12 yng Ngardd Einstein, sy'n gyfuniad arloesol o wyddoniaeth, celf a natur, i gyd wedi’u harchwilio’n ddychmygus yn yr ŵyl.
Mae dwy o'r ymchwilwyr, Dr Katherine Taylor o Brifysgol Manchestrer Metropolitan a Teri Howson o Brifysgol Bangor, hefyd yn cymryd rhan yn Llyfrgell Ddynol yr ŵyl. Gall aelodau o'r cyhoedd edrych ar lyfr dynol i gael gwybod mwy am arloesedd, gwyddoniaeth ac ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2015