Gwerthiant a defnydd o Brydlesau yng Nghymru
Er mwyn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar brydles yng Nghymru, mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl sydd â phrydles preswyl hir, fel rhan o'u perchentyaeth neu forgais, i gwblhau holiadur ar-lein ynglŷn â’u profiadau a'u dealltwriaeth o brydlesi.
Mae Dr Gwilym Owen o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn rhan o'r tîm ymchwil gydag Ysgolion Cyfraith Prifysgolion Caint ac Efrog. Fe'u comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil i brofiadau perchnogion sy'n ymwneud â gwerthu a defnyddio eiddo ar brydles yng Nghymru.
Fel rhan o'r ymchwil hwn, mae'r tîm wedi cynllunio arolwg ar-lein o lesddeiliaid yng Nghymru, na ddylai gymryd mwy nag ugain munud i'w gwblhau.
Nod yr arolwg hwn yw canfod mwy o wybodaeth am: y math o eiddo, y rhydd-ddeiliad a'r rheolwr; faint o lesddeiliaid a wyddai am lesddeiliadaeth pan oeddent yn prynu eu cartref; telerau eu prydlesi; ac unrhyw gamau cyfreithiol neu anghydfodau y maent wedi'u cymryd oherwydd y brydles.
Os ydych yn lesddeiliad gyda phrydles hir ar naill ai fflat neu dŷ yng Nghymru, hoffai'r tîm glywed gennych. Os ydych chi'n gallu eu helpu, dilynwch y ddolen yma:
Mae'r arolwg ar agor tan 20 Rhagfyr 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2019