Gwilwyr Autumnwatch i ddysgu am Frithyll Môr
Bydd gwylwyr rhaglen Autumnwatch ar draws Prydain yn dysgu am broject sy’n gobeithio sicrhau dyfodol brithyll môr, ar raglen i’w ddarlledu ar BBC 2 21.30 18.11.10.
Bu Iolo Williams, un o gyflwynwyr y rhaglen, yng ngogledd Cymru i ddysgu am Broject Brithyll Môr Celtaidd, cyn cael ei harwain gan Brifysgol Bangor, mewn partneriaeth â phartneriaid eraill ym Mhrydain ac Iwerddon.
Mae'r brithyll môr, neu sewin fel y'u gelwir yng Nghymru, yn adnodd pwysig ar gyfer pysgota masnachol a hamdden. Ond mae niferoedd a maint y sewin wedi bod yn gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ymchwil yn bwriadu dod i ddeall mwy am amgylchfyd ac arferion y pysgodyn pwysig hwn. Bydd y canlyniadau yn arwain y rhai sydd â chyfrifoldeb dros gadwraeth pysgodfeydd i ddatblygu cynlluniau rheoli a chadwraeth i'r sewin ar seiliau gwybodaeth gadarnach.
Bu’r rhaglen yn dilyn gweithgareddau samplo’r project, yn rhwydi pysgod efo rhwyd sân yn Ynyslas ar aber y Dyfi. Dangoswyd rhywogaethau gwahanol y pysgod sy’n cael eu dal a’u cofnodi, cyn eu gadael yn rhydd i’r môr. Mae’r project wedi cwblhau samplo ifainc yn afonydd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr, Yr Alban Ynys Manaw, Gogledd Iwerddon a’r Iwerddon.
Er yr un rhywogaeth â'r brithyll, yn lle aros yn yr afon dŵr croyw, mae canran o'r pysgod yn mynd i'r môr fel sewin. Ychydig iawn a wyddom am eu bywydau unwaith y maent yn y môr, heblaw am y ffaith eu bod yn dychwelyd i'w hafonydd genedigol i ddodwy eu hwyau.
"Mae sewin, fel pysgod eraill o deulu’r eog, yn ddangosyddion da pa mor iach yw'n hafonydd. Er bod brithyll ifanc yn ein hafonydd wedi eu hastudio'n helaeth, ychydig iawn a wyddom am y brithyll môr unwaith y mae wedi mudo i'r môr. Does dim gwybodaeth am lle maent yn bwydo, ac a ydy’r sewin o ardaloedd gwahanol yn hel at ei gilydd ynteu’n bwydo ar wahân. Byddai dysgu mwy am y pysgod yn gam cyntaf i gynllunio i sicrhau eu dyfodol," meddai Dr Ian McCarthy o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.
Bydd yr arbenigwyr yn Ysgolion Gwyddorau Eigion a Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn cydweithio â phartneriaid yn Iwerddon (o dan arweiniad Bwrdd Canolog Pysgodfeydd).
Mae'r ymchwilwyr yn awyddus i bysgotwyr o bob math gymryd rhan drwy yrru samplau cen a manylion eu dalfa. Er mwyn cymryd rhan dylent gysylltu â Carys Ann Davies drwy e bost at: carys.davies@bangor.ac.uk neu drwy gael rhagor o fanylion o’r wefan www.celticseatrout.com
Rhai a fu’n samplo yn Ynyslas ar y broject Brithyll Môr Celtaidd: Dan Moore, Andy Marriott, Bekky Jenkins, Carys Ann Davies, Niklas Tysklind a Joe Lavery efo ( yn y canol) cyflwynydd Autumnwatch,Iolo Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2010